Philip Hammond
Nid oes unrhyw adroddiadau bod pobl gyffredin wedi cael eu lladd yn Syria o ganlyniad i ymosodiadau o’r awyr gan luoedd Prydain yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor heddiw.
Mae Philip Hammond wedi bod yn cyflwyno ei adroddiad cyntaf i Dy’r Cyffredin ers dechrau’r ymosodiadau o’r awyr yn Syria yn dilyn pleidlais bythefnos yn ôl.
Dywedodd ei fod yn “falch” i roi gwybod nad oedd wedi derbyn adroddiadau bod unrhyw bobol gyffredin wedi cael eu lladd yn Syria nac yn Irac o ganlyniad i gyrchoedd awyr gan awyrennau Prydain.
Ychwanegodd bod hynny oherwydd “manyldeb” a “phroffesiynoldeb” y Llu Awyr.
Dywedodd hefyd ei fod yn croesawu creu clymblaid filwrol Islamaidd i frwydro brawychiaeth a fydd yn cynnwys milwyr o 34 o wledydd Mwslimaidd yn y Dwyrain Canol.
Mynnodd nad oedd “methiant yn opsiwn” yn y frwydr yn erbyn IS, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Isis, Isil neu Daesh.
Rwsia
Wrth gyfeirio at y trafodaethau yn Efrog Newydd ddydd Gwener sydd a’r bwriad o sicrhau cadoediad yn Syria dywedodd Philip Hammond bod yna “bosibilrwydd” ond y byddai’n “hynod o heriol.”
Yn y cyfamser mae wedi beirniadu Rwsia am dargedu gwrthryfelwyr yn bennaf, sy’n gwrthwynebu llywodraeth Syria, gan ddweud bod hynny’n “rhoi mantais i luoedd IS y maen nhw’n honni eu bod yn eu herbyn”.
“Gyda’n partneriaid yn y glymblaid, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, fe fyddwn yn parhau i annog Rwsia i ganolbwyntio eu hymosodiadau ar Daesh,” meddai.
Ffoaduriaid
Yn y cyfamser, mae David Cameron wedi cadarnhau bod y mil o ffoaduriaid cyntaf o Syria bellach wedi cyrraedd y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth ASau bod Prydain yn gwneud “ei dyletswydd foesol” i ariannu gwersylloedd ffoaduriaid a’i fod wedi cwrdd â’i ymrwymiad i ail-gartrefu’r 1,000 o bobl sydd wedi ffoi o Syria erbyn y Nadolig.
Fe gyhoeddodd ym mis Medi y bydd hyd at 20,000 o ffoaduriaid o Syria yn cael eu hail-gartrefu yn y DU dros y pum mlynedd nesaf.