Mae pwyllgor o ASau wedi rhybuddio “nad oes sicrwydd” y bydd unrhyw ddiwygiadau yn cael eu cyflawni yn sgil refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, ac y dylai pleidleiswyr fod yn ymwybodol o hynny.

Mae Pwyllgor Archwilio Ewropeaidd wedi dweud na fydd cynlluniau David Cameron “yn trosglwyddo’r rhwymedigaeth gyfreithiol a chytundeb na ellir ei newid yn ôl wrth ddiwygio’r UE, na chwaith newid sylfaenol ym mherthynas y DU.”

Maen nhw’n mynegi na fyddai rhai elfennau yn gallu cael eu cyflawni erbyn  Rhagfyr 2017, sef dyddiad cau’r Prif Weinidog ar gyfer y bleidlais.

‘Angen bod yn ymwybodol’

Mewn adroddiad beirniadol, mae’r pwyllgor wedi beirniadu ymateb “adweithiol ac anhryloyw” o’r ail drafodaeth.

Fe ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Syr Bill Cash, fod eu hadroddiad yn awgrymu fod angen diwygiadau cytundebol.

“Byddai’r rhain yn brosesau hir, lle byddai rhaid i bob Aelod Gwladol gytuno ar ddefnyddio gweithdrefnau cyfansoddiadol, ac mewn rhai gwledydd, refferendwm.”

“Beth bynnag yw’r addewidion sy’n cael eu gwneud yn y trafodaethau, does dim sicrwydd y byddan nhw’n cael eu trosglwyddo i bobol Prydain. Mae angen i bleidleiswyr yn y refferendwm sydd ar y gweill fod yn ymwybodol o hyn wrth wneud eu dewis dros bleidleisio i aros yn yr UE neu i adael yr UE.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran David Cameron: “Mae’r Prif Weinidog wedi’i gwneud hi’n glir ei fod am weld newidiadau sy’n gyfreithiol ac na  ellir eu newid ac mae wedi bod yn glir y byddai angen newid cytundebol mewn rhai meysydd.”