Mae cwmni Jaguar Land Rover wedi arwyddo cytundeb gyda llywodraeth Slofacia, i godi ffatri newydd ar gyfer cynhyrchu ei gerbydau drud.

Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yn y Deyrnas Unedig, ond sy’n eiddo i Tata Motors o India, yn bwriadu codi ei ffatri ger dinas Nitra, tua 65 milltir i’r dwyrain o brifddinas Slofacia, Bratislafa. Y bwriad ydi cynhyrchu hyd at 300,000 o geir bob blwyddyn.

“Mae’n dipyn o beth i Slofacia,” meddai Robert Fico, Prif Weinidog y wlad honno ar ddiwedd y seremoni arwyddo cytundebau.

Mae disgwyl i’r ffatri agor yn 2018, a chreu hyd at 4,000 o swyddi.

Mae Slofacia’n prysur wneud enw iddi ei hun ym myd cynhyrchu ceir, gan mai yno y mae Volkswagen, PSA Peugeot Citroen, a Kia Motors Corp bellach yn cynhyrchu yno.