Mae Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP, wedi croesawu addewid Liz Truss, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, i atal rhannau o’r cytundeb ôl-Brexit pe na bai modd dod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae trafodaethau ar y gweill tros Brotocol Gogledd Iwerddon, sy’n cael ei wrthwynebu’n chwyrn gan unoliaethwyr sy’n ystyried y gwiriadau wrth y ffin ym mhorthladdoedd Gogledd Iwerddon yn ffin yng nghanol y môr.

Dywed Liz Truss y bydd hi’n awgrymu “cynigion adeiladol” pan fydd hi’n siarad â Maros Sefcovic, sydd mewn swydd gyfatebol iddi yn yr Undeb Ewropeaidd, ddydd Iau (Ionawr 13).

Mae hi’n dweud ei bod hi’n “barod” i ddileu Erthygl 16, a fyddai’n atal rhannau o Brotocol Gogledd Iwerddon, a hynny ar ôl i Syr Jeffrey Donaldson fygwth tynnu ei weinidogion allan o Bwyllgor Gweithredol Stormont, a fyddai’n peryglu sefydlogrwydd Gogledd Iwerddon.

Ond mae Colum Eastwood, arweinydd plaid yr SDLP, wedi beirniadu’r bygythiad fel un “mor flinedig â bygythiadau’r DUP a Sinn Fein i ddymchwel Stormont”, gan ddweud nad yw’n “helpu neb, ac yn gwneud pethau’n waeth”.

Ymateb

Mae disgwyl i Syr Jeffrey Donaldson gyfarfod â Liz Truss yr wythnos hon.

“Mae hi’n llygad ei lle nad yw unoliaethwyr yn cytuno â’r protocol ac mae angen i’r Llywodraeth ddilyn drwodd ar eu hymrwymiad i ddiogelu’r Undeb a gwarchod lle Gogledd Iwerddon ym Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig,” meddai arweinydd y DUP ar Twitter.

Mae Doug Beattie, arweinydd Unoliaethwyr Ulster, hefyd wedi croesawu’r sylwadau fel “ffordd ymlaen wrth ymdrin â materion masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd”.

Ond mae e hefyd wedi beirniadu bygythiad Syr Jeffrey Donaldson, gan ddweud mai “rhagor o ymgysylltu a thrafod yw’r ffordd ymlaen”.