Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed mewn digwyddiad yn ymwneud â beic pedair olwyn yng Nglyn Ebwy.
Bu farw’r dyn yn sydyn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 8), ar ôl i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd iddo ar lwybr seiclo yn mynd am Nantyglo.
Fe wnaeth yr Ambiwlans Awyr a’r Gwasanaeth Ambiwlans gynorthwyo’r heddlu, ond bu farw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu, sy’n dweud nad ydyn nhw’n trin ei farwolaeth fel un amheus.
Mae’r crwner wedi cael gwybod, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu os oes ganddyn nhw ddeunydd dashcam neu os oedden nhw yn yr ardal rhwng 5 o’r gloch a 6 o’r gloch.