Er bod streic meddygon iau Lloegr ar gyfer heddiw wedi’i gohirio, mae arbenigwyr yn pryderu ei bod yn “rhy hwyr” wedi i filoedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau gael eu gohirio.
Roedd meddygon iau Lloegr wedi bwriadu cynnal streic heddiw am 24 awr, a dwy streic arall ar Ragfyr 8 a Rhagfyr 16 oherwydd anghytundebau am newidiadau i’w cytundebau gwaith.
Ond, fe ddaeth Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus i gytundeb dros dro â’r swyddogion gwleidyddol neithiwr, gan olygu na fydd streiciau mis Rhagfyr yn parhau.
Er hyn, mae pryder fod hyn yn “rhy hwyr” i gleifion sydd bellach wedi gohirio eu llawdriniaethau a’u hapwyntiadau. Yn ôl arolwg, mae tua 600 o lawdriniaethau a 3,500 o apwyntiadau oedd wedi’u trefnu ar gyfer heddiw wedi’u gohirio.
‘Newid i gytundebau’
Fe wnaeth y Llywodraeth gynnig trafodaethau newydd am gytundeb gwaith i feddygon iau, a oedd yn cynnwys cynnydd o 11% yn eu cyflogau.
Ond, roedd y meddygon iau yn dadlau fod hyn i “wneud yn iawn” am gynlluniau eraill i dorri nifer yr oriau ar y penwythnos y gallan nhw hawlio cyflog ychwanegol, wrth weithio oriau “anghymdeithasol”.
Ar hyn o bryd, mae gweithio 7yh tan 7yb o ddydd Llun tan ddydd Gwener a’r penwythnos cyfan yn golygu cyflog o gyfradd premiwm.
O dan y cynlluniau diwygiedig, byddai cyfradd uwch yn cael ei chynnal rhwng 10yh a 7yb dydd Llun i ddydd Gwener, ac o 7yh ar nosweithiau Sadwrn.
Fe ddadleuodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, y byddai’r cytundeb newydd yn effeithio ar gyflog 1% o feddygon yn unig, a’r rheiny’n feddygon “sy’n gweithio gormod o oriau yn barod.”
Byddai’r newidiadau yn effeithio meddygon sy’n gweithio yn Lloegr yn unig.
‘Cytundeb dros dro’
Er hyn, fe ddaeth y grwpiau i gytundeb dros dro neithiwr, gan ryddhau datganiad ar y cyd yn dweud, “Rydym yn bwriadu dod i gytundeb ar y cyd, gan weithio mewn partneriaeth i greu cytundebau newydd i feddygon iau, gan gydnabod eu rôl ganolog mewn gofal i gleifion a dyfodol y Gwasanaeth Iechyd.”
Fe wnaethon nhw hefyd gytuno fod angen “gwella’r mynediad at wasanaeth saith diwrnod yr wythnos” gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus.
Ond, mae’r BMA yn nodi fod ganddyn nhw eto’r hawl i gynnal streic cyn Ionawr 13 os na ellir cyrraedd setliad terfynol.
Fe ddywedodd Jeremy Hunt wrth Aelodau Seneddol y gallai hyd at 20,000 o lawdriniaethau fod wedi’u gohirio pe byddai’r tri diwrnod o streicio wedi parhau.