Croeso i flog byw Golwg360, fydd yn rhoi sylw i sylwadau’r Canghellor George Osborne wrth iddo gyflwyno Datganiad yr Hydref.
Ar frig agenda’r Canghellor fydd lleihau’r diffyg ariannol drwy dorri £20 biliwn oddi ar gyllideb Whitehall, a £12 biliwn oddi ar y rhaglen les.
Ond mae disgwyl iddo sicrhau bod hyd at £7 biliwn ar gael i godi tai newydd yng ngwledydd Prydain.
Dyma flas o’r hyn y gall Cymru ei ddisgwyl yn natganiad George Osborne: Cymru’n cael gwybod ei chyllideb.
Bydd George Osborne yn dechrau ei araith am 12.30yp.
14.01 Dyna ddiwedd y blog byw. Diolch am ymuno â ni!
14.00 McDonnell nawr yn amlinellu cynlluniau’r Blaid Lafur pe baen nhw mewn llywodraeth
14.00 McDonnell yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddadfeilio’r gymdeithas ac o “werthu’r dyfodol”
13.57 Nid ‘cynllun economaidd’ yw’r datganiad heddiw, medd McDonnell, ond yn hytrach ‘ateb gwleidyddol’
13.56 McDonnell yn cyhuddo Osborne o dorri beth bynnag y mae modd ei dorri, ac o werthu asedau cenedlaethol
13.55 McDonnell yn cyhuddo’r llywodraeth o dorri cymorth rhyngwladol i’w wario ar amddiffyn
13.54 146,000 o swyddi heb eu llenwi oherwydd gweithlu heb sgiliau angenrheidiol, medd McDonnell
13.53 McDonnell yn rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu argyfwng dros y gaeaf
13.52 McDonnell yn dweud nad yw’n realistig arbed £22 biliwn drwy’r gyllideb iechyd
13.51 Wrth ymateb i’r newyddion na fydd yr heddlu’n gweld toriadau, dywed McDonnell fod 17,000 o blismyn eisoes wedi cael eu colli yn sgil y Llywodraeth
13.50 Llywodraeth Prydain yn dewis torri yn hytrach na buddsoddi yn y dyfodol, medd McDonnell
13.49 McDonnell yn cyhuddo Osborne o dorri ei gap lles ei hun
13.48 McDonnell yn beirniadu anallu economaidd George Osborne
13.47 McDonnell yn llongyfarch Aelodau Seneddol a’r Arglwyddi ar orfodi’r llywodraeth i wneud tro pedol ynghylch credydau treth
13.46 McDonnell yn cyhuddo Osborne o ddiffyg dealltwriaeth o effaith y toriadau i’r credydau treth ar bobol gyffredin
13.45 Helynt y credyd treth – neu’r tro pedol – yn dangos “nad ydyn ni ynddi gyda’n gilydd”, medd McDonnell
13.44 McDonnell yn rhybuddio bod y genhedlaeth nesaf yn mynd i etifeddu dyledion gwerth £1.5 triliwn
13.43 Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi dechrau ymateb i ddatganiad George Osborne, gan amau nifer o’i sylwadau yn ystod ei araith
13.42 Wrth gloi ei araith, dywedodd George Osborne mai’r llywodraeth yw “ceidwaid diogelwch economaidd, amddiffynwyr diogelwch cenedlaethol, adeiladwyr gwell ddyfodol”. Ychwanegodd mai Llywodraeth Prydain yw “cynrychiolwyr prif ffrwd pobol Prydain”.
13.40 Dim toriadau i gyllideb yr heddlu yng Nghymru a Lloegr
13.40 Cyllideb y Swyddfa Dramor wedi’i diogelu yn nhermau real
13.39 Bydd y gyllideb ar gyfer Amddiffyn wedi codi o £34 biliwn ar hyn o bryd i £40 biliwn erbyn 2020-21
13.38 Cyfradd newydd o dreth stamp ar gyfer tai ar les
13.38 200,000 o dai prynwyr tro cyntaf i gael eu gwerthu am ostyngiad o 20% i bobol dan 40 oed
13.37 Adeiladu 135,000 o dai Cymorth i Brynu
13.36 400,000 o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu erbyn 2020
13.35 Dyblu’r gyllideb tai i £2 biliwn y flwyddyn
13.34 Gwerthu carchardai Fictorianaidd a’u disodli gan naw o garchardai newydd
13.32 Torri cyllideb ddyddiol yr Adran Gwaith a Phensiynau o 14%
13.32 Bydd y rhai sy’n hawlio lwfans chwilio am waith am y tro cyntaf yn gorfod mynd i’r Ganolfan Waith bob wythnos am dri mis
13.31 Tal prentisiaethau yn cael ei osod ar 0.5% o fil cyflogau cyflogwr
13.30 Bydd hawl gan golegau chweched dosbarth i ddod yn Academi. Cyllideb colegau addysg bellach wedi’i diogelu. Benthyciadau ar gael i fyfyrwyr rhan-amser
13.29 Y gyllideb addysg i gynyddu o £10 biliwn
13.28 Ymestyn y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i 300,000 o lefydd
13.28 Agor 500 o ysgolion a cholegau technegol rhad ac am ddim newydd
13.27 Bydd rhieni sy’n gweithio mwy na 16 awr yr wythnos yn gallu derbyn uchafswm o 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim
13.25 £15 miliwn y flwyddyn drwy TAW ar offer ymolchfa yn mynd i elusennau menywod
13.24 Torri gwariant gweinyddol yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o 20%
13.22 Cynnal mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau
13.21 Torri 17% oddi ar wariant dyddiol yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau
13.20 Ymestyn cynllun cymorth trethi i fusnesau bychain am flwyddyn ychwanegol
13.19 Cynllun ynni newydd i dorri £30 miliwn oddi ar filiau ynni
13.18 Gwariant dyddiol yr Adran Ynni wedi’i dorri o 22%
13.15 Gwariant dyddiol yr Adran Amgylchedd wedi’i dorri o 15%
13.14 Gwariant ar drafndiaeth i gynyddu 50% i £61 biliwn
13.13 Gwariant yr Adran Drafnidiaeth i leihau o 37%
13.11 Grant bloc yr Alban yn yr un cyfnod fydd £30 biliwn
13.09 £15 biliwn fydd grant bloc Cymru erbyn 2019-2020. Gwariant Cymru i godi £900 miliwn yn yr un cyfnod
13.07 Ni fydd angen refferendwm er mwyn gallu addasu lefelau’r dreth incwm yng Nghymru, h.y. maes newydd wedi’i ddatganoli’n awtomatig i Gymru
13.06 Llawr ariannol o 115% yn cael ei gyflwyno yng Nghymru
13.05 Rhoi’r hawl i awdurdodau lleol 2% o dreth y cyngor ar ofal cymdeithasol. Cronfa Gofal Gwell yn derbyn hwb i wireddu hynny
13.03 Bydd 26 o barthau menter newydd yn cael eu creu er mwyn hybu busnesau Prydeinig
13.01 Pensiwn gwladol i godi i £119.30 y flwyddyn nesaf. Pensiynwyr newydd i dderbyn £155.65 y flwyddyn nesaf
12.59 £600 miliwn ychwanegol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl – un o brif flaenoriaethau arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn
12.58 Cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr o £101 biliwn i £12o biliwn erbyn 2020-2021
12.57 Byddai £22 biliwn ychwanegol ar gael drwy dorri’r Gwasanaeth Iechyd, medd Osborne wrth gyflwyno toriadau o 25% yn Adran Iechyd Whitehall
12.56 Prif flaenoriaeth y llywodraeth yw iechyd, medd Osborne. Osborne yn lladd ar fethiant Llywodraeth Cymru
12.55 Gwariant adrannau’r llywodraeth i ostwng 0.8% bob dydd o dan y drefn newydd
12.54 £756 biliwn fydd cyfanswm gwariant cyhoeddus am y flwyddyn (£821 biliwn erbyn 2019-2020)
12.53 Cyllideb Swyddfa’r Cabinet yn crebachu o 26%
12.52 Nod o leihau’r diffyg o £10 biliwn yn aros yr un fath
12.51 Cyflwyno cosb newydd am osgoi talu trethi – £800 miliwn yn cael ei neilltuo i’r perwyl hwn
12.50 Prydain yn ’talu amdani ei hun’ yn y byd, medd Osborne
12.48 Cap ar fudd-dal tai i lefelau’r sector preifat. Cyfyngiadau am fis ar bobol sy’n byw dramor
12.47 Dim newidiadau pellach i’r credydau treth – DIM TORIADAU
12.43 Y Llefarydd John Bercow yn gofyn am dawelwch gan yr wrthblaid unwaith eto
12.42 Mwy na miliwn o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn ystod y pum mlynedd nesaf, meddai’r swyddfa sy’n gyfrifol am y gyllideb (OBR)
12.41 Gwasanaethau cyhoeddus wedi gwella o ran eu safon er gwaethaf toriadau, medd Osborne
12.40 Disgwyl i economi Prydain dyfu 2.4% eleni (2.4% yn 2016, 2.5% yn 2017, 2.4% yn 2018, 2.3% yn 2019)
12.39 Gwendid yr Ewro yn broblem o hyd, medd Osborne
12.38 Bydd yr adferiad economaidd yn cael ei deimlo ym mhob rhan o wledydd Prydain, medd Osborne
12.36 Osborne yn cadarnhau y bydd £12 biliwn yn cael ei dorri oddi ar y rhaglen les
12.35 Osborne yn dweud ei fod wedi addo lleihau dyledion, a bod y llywodraeth wedi cyflawni hynny
12.34 George Osborne yn dweud bod yr economi’n “sail i bopeth” mae’r Llywodraeth am ei gyflawni
12.33 Y Llefarydd John Bercow yn cyflwyno’r Canghellor George Osborne