David Cameron a'r Arlywydd Francois Hollande yn ymweld ag un o safleoedd ymosodiadau Paris
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi ymuno ag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wrth iddyn nhw ymweld â safle un o’r ymosodiadau ym Mharis bore ma.

Bu’r ddau yn ymweld â neuadd Bataclan lle cafodd dwsinau o bobl eu lladd yn y gyflafan gan ddynion arfog o’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd David Cameron bod y ddau ddyn yn sefyll “ochr yn ochr” wrth iddo roi teyrnged i bobl Ffrainc am eu “dewrder” yn dilyn yr ymosodiadau yn y brifddinas.

Dywedodd David Cameron y byddai’r DU yn gwneud “popeth yn ein gallu” i gefnogi Ffrainc yn y frwydr yn erbyn IS.

Yn dilyn trafodaethau gyda Francois Hollande, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n cyflwyno “strategaeth gynhwysfawr” i ddelio gyda IS, yn y Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Bu’r ddau arweinydd yn trafod mesurau ynglŷn â sut i wella rhannu cudd-wybodaeth a gweithio’n agosach gyda’u cynghreiriaid yn Ewrop er mwyn  mynd i’r afael a’r bygythiad gan jihadwyr sy’n dychwelyd o Syria ac Irac.

Mae angen cryfhau ffin yr Undeb Ewropeaidd i amddiffyn ein diogelwch yn fwy effeithlon, meddai David Cameron gan ychwanegu bod angen gwneud mwy i dargedu IS yn ei gadarnleoedd yn Syria ac Irac.

“Gyda’n gilydd fe fyddwn ni yn trechu’r bygythiad yma,” meddai.

Yn y Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon fe fydd David Cameron yn ceisio cael cefnogaeth Aelodau Seneddol er mwyn dwysau’r ymdrechion yn erbyn IS yn Syria.

Fe allai pleidlais dros gynnal ymosodiadau awyr yn Syria gael ei gynnal mor fuan ag wythnos nesaf.

Yn y cyfamser fe fydd Francois Hollande yn teithio i Washington a Moscow yn ddiweddarach  yr wythnos i bwyso am glymblaid ryngwladol gryfach yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).