David Cameron
Mae Downing Street wedi gwadu bod David Cameron wedi newid ei bolisi ar Syria, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi sgrapio cynlluniau i gynnal pleidlais Seneddol i gymeradwyo ymosodiadau o’r awyr.

Roedd disgwyl i bleidlais gael ei chynnal yn yr Hydref ar ôl i’r Prif Weinidog awgrymu ei fod eisiau ehangu cyrchoedd yr Awyrlu yn erbyn y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) o Irac i Syria.

Dywedodd na fyddai’n gwneud hynny oni bai bod “consensws” ymhlith ASau.

Ond mae adroddiadau yn awgrymu bod Cameron wedi rhoi’r gorau i’w gynlluniau i gael cefnogaeth ar gyfer gweithredu milwrol pellach, oherwydd na allai sicrhau y byddai’n cael cefnogaeth digon o Aelodau Seneddol Llafur.

Daeth yr honiadau ar ôl i’r Pwyllgor Materion Tramor rybuddio na ddylai’r Prif Weinidog ofyn i ASau gefnogi gweithredu milwrol pellach yn erbyn IS yn Syria nes ei fod yn gallu dangos bod cynllun clir i drechu’r jihadwyr a dod a diwedd i’r rhyfel cartref gwaedlyd yno.

Mewn adroddiad, fe rybuddiodd y pwyllgor y gallai ymgyrchoedd awyr yr Awyrlu gyfaddawdu ymdrechion i ddod o hyd i ateb diplomyddol i’r argyfwng.