Owen Smith
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod cynlluniau diweddaraf George Osborne yn ’dwyll’, wrth i’r Canghellor geisio ymateb i’r gwrthwynebiad i’w gynlluniau i dorri credydau treth.

Roedd Osborne wedi gobeithio cyflwyno toriadau i gredydau treth y flwyddyn nesaf, ond ar ôl i’w gynlluniau gael eu trechu yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe, mae nawr wedi dweud y bydd yn cyhoeddi mesurau newydd i leddfu effaith y toriadau.

Bydd cynnydd yn yr isafswm cyflog, lwfans treth bersonol a gofal plant am ddim, oedd i’w cyflwyno erbyn 2020, nawr yn digwydd y flwyddyn nesaf er mwyn ceisio lleihau effaith y toriadau i gredydau treth.

Ond yn ôl Llafur fe fyddai’r teuluoedd tlotaf sydd mewn gwaith yn dal i fod ar eu colled o dan y cynlluniau diweddaraf, gan ddweud bod y Ceidwadwyr yn “twyllo” pobl drwy ddweud y byddai’r mesurau newydd yn gwneud yn iawn am y toriadau.

Mae’r Ceidwadwyr wedi amddiffyn y penderfyniad gan ddweud mai’r gwrthbleidiau sydd yn ceisio chwarae gwleidyddiaeth â’r mater.

‘Camarwain’

Byddai’r toriadau o £4.4bn i gredydau treth o’r flwyddyn nesaf ymlaen yn gadael 3.3m o gartrefi gweithiol â £1,300 yn llai yn eu pocedi bob blwyddyn, yn ôl llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Fe fyddai codi’r isafswm cyflog o £9.20 a chodi’r swm sydd yn rhaid ei ennill cyn dechrau talu treth i £12,500 ddim yn ddigon i wneud yn iawn am y colledion hynny, yn ôl llefarydd gwaith a phensiynau’r Blaid Lafur Owen Smith.

“Byddai’r rhan fwyaf o deuluoedd yn gweithio 40 awr yr wythnos gydag un rhiant yn y gwaith yn parhau i golli £600 y flwyddyn os oedden nhw’n ennill £15,000. Felly dyw hyn ddim am wneud yn iawn am y colledion,” mynnodd Owen Smith.

Ychwanegodd bod y llywodraeth Geidwadol yn ceisio ‘twyllo’r’ cyhoedd â’u symiau, ac nad oedden nhw wedi rhybuddio y bydden nhw’n cyflwyno’r newid hwn.

“Fe ddywedodd y Prif Weinidog cyn yr etholiad diwethaf yn fyw ar y teledu nad oedd e am dorri credydau treth plant. Mae’n mynd i wneud hynny nawr. Mae hynny’n camarwain y cyhoedd,” ychwanegodd Owen Smith.

Ceidwadwyr yn amddiffyn

Dywedodd cyn-ysgrifennydd Torïaidd Cymru John Redwood, sydd yn AS dros Wokingham, fod angen i’r newid gael ei gyflwyno ar yr amser cywir ond nad oedd modd “esgus nad oes problem gyda’r bil lles”.

Mynnodd y Ceidwadwr Suella Fernandes fod y llywodraeth yn “synhwyrol a chyfrifol” gyda’u cynlluniau” a bod y gwrthbleidiau yn “warthus” wrth geisio atal y cynlluniau drwy bleidleisio yn eu herbyn yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Beth rydyn ni wedi’i weld yw’r gwrthbleidiau yn ceisio achub cyfleoedd ar fater lle mae angen consensws,” meddai.