George Osborne
Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol sy’n pryderu am gynlluniau’r Canghellor i dorri’r credydau treth wedi’u hannog i ymuno â’r Blaid Lafur gan bleidleisio yn erbyn y mesurau yn ystod dadl yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Mae rhai o ASau Ceidwadol yn pryderu am effaith newidiadau dadleuol George Osborne i bolisi credydau treth ar bobol ar hyd a lled y wlad, wrth i’r cynllun gael ei baratoi ar gyfer mis Ebrill nesaf.

Am hynny, mae rhai o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid Lafur, gan gynnwys y Llefarydd Gwaith a Phensiynau, Owen Smith, a Phrif Lefarydd y Trysorlys, Seema Malhotra, wedi ysgrifennu at ASau Ceidwadol yn eu hannog i gefnogi cynnig y Blaid Lafur i wyrdroi’r toriadau sydd ar y gweill.

Yn eu llythyr, maen nhw’n honni y gallai 3 miliwn o deuluoedd sy’n gweithio golli ar gyfartaledd £1,300 o flwyddyn o ganlyniad i’r toriadau.

Ond, mewn ymateb i’r pryder hwn, mae’r Trysorlys wedi rhyddhau ffigurau sy’n dangos fod y diwygiadau sydd wedi’u gwneud i gredydau treth ers 2010, pan ddechreuodd George Osborne fel Canghellor, wedi arbed £15 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn honni y gallai’r gwariant ar gredydau treth fod wedi codi o £28.9 biliwn yn 2010-11 – i £40 biliwn y flwyddyn erbyn 2016-17 – ac mae hynny’n rhannol oherwydd y toriadau diweddar a wnaed i gredydau treth yn ystod y Gyllideb ym mis Gorffennaf.

Effaith ar Gymru

Wrth siarad cyn dadl yr wrthblaid heddiw, fe rybuddiodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru, y gallai’r newidiadau i gredydau treth erbyn Ebrill 2016 effeithio 124,300 o deuluoedd yng Nghymru, a’r rheiny’n deuluoedd mewn gwaith.

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi gwrthwynebu’r toriadau o’r cychwyn, ac “y gallai’r blaid Geidwadol dalu’r pris yn Etholiad y Cynulliad am doriadau’r Canghellor i gredydau treth.”

“Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr angen i dorri’r bil credydau treth. Dyna pam ein bod wedi hyrwyddo’r polisi o gyflwyno Cyflog Byw go iawn a fyddai’n arbed £1.5bn i’r Trysorlys bob blwyddyn yn sgil mwy o bobol yn talu treth, mwy o gyfraniadau yswiriant cenedlaethol, a lleihad yn nhaliadau credydau treth.

“Ni fydd ymdrechion sinigaidd George Osborne i ail-frandio’r cyflog byw yn cau’r bwlch cyllidol sy’n wynebu teuluoedd yn sgil ei newidiadau i gredydau treth.”

“Gyda disgwyl i’r newidiadau hyn ddod i rym ond wythnosau cyn Etholiad y Cynulliad, bydd y Ceidwadwyr a’r blaid Lafur a eisteddodd ar eu dwylo yn talu’r pris yn y blwch pleidleisio,” meddai Jonathan Edwards, AS Caerfyrddin a Dinefwr.