Fe fydd David Cameron yn cyflwyno cyfres o fesurau heddiw i atal pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog fynnu na all y Llywodraeth anwybyddu’r ffaith bod eithafiaeth yn lledaenu, wrth iddo lansio strategaeth gwrth-eithafiaeth newydd.
Bydd y cynllun yn rhoi mwy o rym i rieni a sefydliadau cyhoeddus i ddiddymu pasborts pobl ifanc os oes risg y byddan nhw’n teithio dramor i ymuno a grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae’r pwerau eisoes wedi cael eu defnyddio i ddiddymu pasborts nifer o blant o dan 16 oed ers cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf, yn ol Downing Street, ac fe fydd y grymoedd bellach ar gael ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed.
Fe fydd gwaharddiad i atal pregethwyr radical rhag rhoi deunydd ar-lein ac fe fydd cwmnïau rhyngrwyd yn gweithio’n agosach gyda’r heddlu i atal deunydd eithafol rhag cael ei ledaenu.
Roedd David Cameron wedi cyhoeddi ddoe y bydd £5 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i geisio cymedroli grwpiau ac elusennau Mwslimaidd eleni.
Mae disgwyl iddo ddweud heddiw mai eithafiaeth yw “un o’r problemau cymdeithasol mwyaf y mae’n rhaid i ni ei oresgyn.”
Ond mae rhai wedi rhybuddio bod angen sicrhau nad yw’r mesurau yn rhy lawdrwm a dywedodd ysgrifennydd cartref yr wrthblaid Andy Burnham bod angen cael y “cydbwysedd yn iawn.”