Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn yn wynebu’r her fwyaf i’w awdurdod ers iddo ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yn dilyn tro pedol ynglŷn â pholisi economaidd y Llywodraeth.

Roedd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, wedi dweud yn wreiddiol y byddai’n cefnogi cynlluniau’r Llywodraeth i orfodi llywodraethau’r dyfodol i gadw arian dros ben yn eu cyllidebau.

Ond fe gyhoeddodd ddoe ei fod wedi newid ei feddwl am gefnogi cynlluniau George Osborne ar ôl cwrdd â theuluoedd sydd wedi’u heffeithio ar ôl i safle cynhyrchu dur Redcar gau.

Mae rhai aelodau Llafur wedi bod yn hynod feirniadol gan ddweud bod eu polisi economaidd mewn anhrefn ac nad oes gan y blaid “arweinyddiaeth gredadwy.”

Maen nhw hefyd wedi gwrthod dweud a fyddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y blaid yn y Senedd ynglŷn â Siarter Cyfrifoldeb Cyllidebol y Llywodraeth.