Michael Gove
Mae Llywodraeth Prydain wedi tynnu’n ôl o gytundeb dadleuol gwerth £5.9 miliwn gyda Saudi Arabia, yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog.

Byddai’r cytundeb wedi darparu hyfforddiant i wasanaethau a staff carchardai Saudi Arabia.

Fe ddywedodd y llefarydd fod y penderfyniad hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau domestig y Llywodraeth.

Fe ddaw’r cyhoeddiad ynghanol yr ymgyrch i ryddhau’r Prydeiniwr Karl Andree, 74 oed, sydd wedi’i ddal mewn carchar yn Saudi Arabia ac yn wynebu 350 o chwipiadau.

Fe ddywedodd y llefarydd fod David Cameron wedi ymyrryd yn bersonol yn achos Karl Andree sy’n ddad-cu i 7 o blant ac wedi dioddef o ganser ac asthma, a’i fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Saudi Arabia.

Cafodd Karl Andree ei arestio yn Jeddah ym mis Awst y llynedd am fod â gwin cartref yn ei feddiant, ac mae wedi treulio 12 mis yn y carchar ac yn wynebu’r posibilrwydd o chwipio cyhoeddus.

Fe wnaeth ei deulu alw am ymyrraeth gan Lywodraeth Prydain i’w ryddhau am eu bod nhw’n poeni am ei iechyd.

Er hynny, mae’r llefarydd ar ran Downing Street yn pwysleisio fod tynnu’n ôl o’r cytundeb carchar ac achos Karl Andree yn ddau achos cwbl ar wahân.

Hawliau dynol

Mae tynnu’n ôl o’r cytundeb carchar wedi bod yn bwnc llosg yn y cabinet yn ddiweddar, gyda’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove yn dadlau â’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wrth geisio tynnu nôl o’r cytundeb.

Fe ychwanegodd y llefarydd “fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio gyda Saudi Arabia ar faterion hawliau dynol, diwygiadau cyfreithiol ac yn parhau i godi unrhyw bryderon sydd gennym.”

Mae Michael Gove wedi mynnu y bydd Prydain yn parhau a’i pherthynas a Saudi Arabia.

Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn alw am sgrapio’r cytundeb yn ystod eu cynhadledd yr hydref hwn gan ddweud:

“Dylem ni fod yn anfon neges glir i gyfundrefnau gormesol fod y DU yn ffagl dros hawliau dynol a bod y cytundeb hwn yn annerbyniol yn yr 21 ganrif.”