Paneli solar
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai hyd at 13,000 o swyddi yn y sector ynni ac amgylchedd yng Nghymru fod o dan fygythiad, o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth San Steffan i dorri cymorth i’r diwydiant.
Rhybuddiodd llefarydd Plaid Cymru ar Sgiliau, Simon Thomas, y gallai cynlluniau uchelgeisiol y blaid i droi’r wlad yn bwerdy ynni glân fod o dan fygythiad oherwydd toriadau mewn cymorth ariannol i’r sector ynni adnewyddadwy gan Lywodraeth y DU.
O ganlyniad, mae’n galw am ddatganoli pŵer dros adnoddau naturiol Cymru i Gymru – “fel y gallai Llywodraeth Plaid Cymru ffrwyno potensial diderfyn yr ynni adnewyddadwy.”
Fe ymhelaethodd gan nodi y byddai manteision economaidd ynghyd â’r manteision amgylcheddol disgwyliedig i’r cynllun.
‘Tagu’r diwydiant’
Byddai datganoli’r pwerau dros adnoddau naturiol Cymru i Gymru, yn rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau a chefnogi busnesau ynni adnewyddadwy, yn ôl Simon Thomas.
Fe ddywedodd y byddai Plaid Cymru “yn sefydlu Colegau Sgiliau Gwyrdd, gan hyfforddi pobol yn y crefftau sydd eu hangen arnom i ddatblygu’r sector a galluogi Cymru i arwain y byd yn y maes ac elwa o’n hynni adnewyddadwy diderfyn.”
Mae Coleg Sgiliau Gwyrdd eisoes yn bodoli yn Nhredegar, lle mae tua 1,300 o bobol yn cael eu hyfforddi bob blwyddyn.
Ond, roedd Llefarydd Plaid Cymru ar Sgiliau yn poeni na fyddai digon o gyfleoedd i’r hyfforddeion hynny petai “Llywodraeth y DU yn tagu’r diwydiant.”
Cynlluniau ‘uchelgeisiol’
Mae gan Blaid Cymru gynlluniau uchelgeisiol dros ynni adnewyddadwy, ac fe gyfeiriodd Simon Thomas at y nod “o gynhyrchu 100% o drydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy.”
Er hyn, mae’n poeni y gallai “dyfodol ynni Cymru gael ei newid ar fympwy Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd yn gwbl benderfynol o dynnu ei chefnogaeth o’r sector adnewyddadwy.”
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar Rwymedigaeth i Ynni Adnewyddadwy ac yn trafod y posibilrwydd o gyflwyno tariff cyflenwi trydan. Fe fyddai hynny’n bygwth cymorth ar gyfer paneli solar ar dai a chartrefi.
Am hynny, “ni ddylai Llywodraeth Dorïaidd y DU allu tanseilio potensial ynni adnewyddadwy Cymru,” meddai Simon Thomas.
“Dyna pam mae angen i ni ddatganoli pŵer dros ffynonellau adnewyddadwy i Gymru, er mwyn i ni allu ffrwyno ein potensial a gwneud Cymru’n bwerdy ynni glân.”