Fe fydd 11 o gynghorau lleol yr Alban yn destun cyfyngiadau Lefel 4 o ddydd Gwener (Tachwedd 20) – sy’n gyfystyr â chyfnod clo llawn.

Daeth cadarnhad o’r mesurau gan y prif weinidog Nicola Sturgeon gerbron Aelodau o Senedd yr Alban yn ei diweddariad wythnosol.

Byddan nhw’n dod i rym am 6 o’r gloch nos Wener yn Glasgow, Sir Renfrew, Dwyrain Sir Renfrew, Dwyrain Sir Dunbarton, Gorllewin Sir Dunbarton, Gogledd Sir Lanark, De Sir Lanark, Dwyrain Sir Ayr, De Sir Ayr, Stirling a Gorllewin Lothian.

Mae’r Alban eisoes wedi bod yn destun cyfyngiadau Lefel 3, ond maen nhw’n codi i Lefel 4 yn sgil lefelau “styfnig a brawychus”, yn ôl Nicola Sturgeon.

Pedair lefel sydd i gyd.

Ar Lefel 4, bydd yr holl siopau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cau, a bydd bariau, bwytai, campfeydd, siopau trin gwallt ac atyniadau ymwelwyr eraill yn cael eu hatal rhag agor.

Ond bydd ysgolion yn parhau ar agor.

Fydd dim modd i bobol deithio oni bai bod gwir angen.

Ond yn groes i’r patrwm cenedlaethol, bydd Dwyrain Lothian a Midlothian yn llacio i Lefel 2 o Lefel 3.

Fydd yr 19 o gynghorau eraill ddim yn newid, a bydd modd i bobol mewn ardaloedd Lefel 1 gyfarfod â hyd at wyth o bobol o dair aelwyd arall yn yr awyr agored o ddydd Iau (Tachwedd 19).

Mae Nicola Sturgeon yn cydnabod “rhwystredigaeth” pobol, ond mae’n dweud mai’r bwriad yw cyflwyno cyfyngiadau “tymor byr” cyn y Nadolig ac ar drothwy gaeaf allai fod yn anodd.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i ben ar Ragfyr 11, a’r gobaith wedyn yw y bydd y wlad yn gallu symud i gyfyngiadau Lefel 2 ar y cyd.