Fe fydd cannoedd o filoedd o bobl yn ymuno mewn gorymdaith ym Manceinion ddydd Sul i wrthwynebu llymder, ar drothwy cynhadledd y Blaid Geidwadol yn y ddinas.

Mae’r brotest a’r orymdaith yn cael ei threfnu gan Gyngres yr Undebau Llafur sy’n protestio yn erbyn rhaglen lymder Llywodraeth Prydain sy’n “ymosod ar hawliau undebau llafur a’r gwanaf mewn cymdeithas”.

Fe fydd y rali yn dechrau yn All Saints Park ac yn symud trwy ganol y ddinas, gyda chynrychiolaeth o sawl undeb llafur.

Dywedodd Ysgrifennydd Undeb y GMB yng ngogledd orllewin Lloegr, Paul McCarthy: “Fe fydd y Blaid Geidwadol yn agor eu cynhadledd flynyddol ym Manceinion, gyda chefndir o gwymp mewn safonau byw, rhewi cyflogau, toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus  gan effeithio ar y mwyaf bregus a’r oedrannus, gan ei gwneud yn analluog i warchod a chefnogi eu hunain yn ddigonol.”

Cyhoeddodd Undeb y Sector Gyhoeddus, Unsain y bydd dros 500 o’i haelodau hefyd yn teithio i Fanceinion i gymryd rhan yn yr orymdaith.

Dywedodd Margaret Thomas ar ran UNSAIN: “Mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud i bobl gyffredin dalu am y dirwasgiad, gan dorri a phreifateiddio ein gwasanaethau cyhoeddus. Fe fydd toriadau budd-dal treth yn cosbi’r tlawd a’r cyflogau isel. Nid yw llymder yn ddewis ac fe ddylem ddwyn y Llywodraeth yn atebol.”

Yn ôl Margaret Thomas: “Nawr maen nhw yn brysio’r mesur undebau llafur trwy’r Senedd. Mae’r ddeddfwriaeth yn gwbl ddianghenraid ac mae’r Torïaid eisiau tanseilio hawliau sifil pobl sy’n gweithio.  Mae ymosod ar yr undebau llafur mewn modd creulon yn dinistrio’r berthynas waith dda sydd gyda ni gyda chyflogwyr.”

Ychwanegodd: “Ein neges i’r Prif Weinidog yw: Gadewch inni weithio am well dyfodol: ataliwch y Mesur Undebau Llafur a dod a llymder i ben.”

Mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Gynulliad y Werin ym Manceinion dros y dyddiau nesaf, fe fydd y band o Gymru, Super Furry Animals a’r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church yn chwarae mewn gig yn gwrthwynebu llymder nos Lun.