Fe fydd y trawsblaniad croth cyntaf yng ngwledydd Prydain yn cael ei gwblhau o fewn misoedd, ar ôl i feddygon gael yr hawl i ymgymryd â’r llawdriniaeth arloesol.

Fe fydd 10 o fenywod heb groth yn cael y cyfle i gael y driniaeth wedi i bwyllgor yng ngholeg Imperial yn Llundain roi sêl bendith i’r cynlluniau.

Fe fydd yr arbrawf yn dechrau yn y gwanwyn, ac mae dros 100 o fenywod eisoes wedi cael eu nodi fel rhai a allai elwa o’r driniaeth.

Mae oddeutu un o bob 5,000 o fenywod yn cael eu geni heb groth, tra bod eraill yn ei cholli oherwydd afiechydon megis canser.

Bydd Richard Smith yn arwain y tîm sy’n gobeithio cwblhau’r trawsblaniad cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Mae triniaeth o’r fath eisoes wedi cael ei rhoi yn Sweden.

‘Cynnig gobaith’ 

Dywed Smith fod y driniaeth yn cynnig gobaith i gyplau sydd hyd yma wedi dibynnu ar fabwysiadu neu ddirprwy famau.

Pe bai’r arbrawf yn llwyddiannus, fe allai’r babi cyntaf o ganlyniad i drawsblaniad gael ei eni yn 2017 neu 2018.

Fe fu Richard Smith, sy’n arbenigwr yn ysbyty Queen Charlotte a Chelsea, yn gweithio ar y prosiect ers 19 o flynyddoedd.

Dywedodd: “Rwy wedi cwrdd â nifer o’r menywod sy’n dymuno cael hyn ac mae’n bwysig iawn iddyn nhw a’u partneriaid.

“Does dim amheuaeth, i nifer o gyplau, fod bod heb blentyn yn drychineb.

“Mae anffrwythlondeb yn beth anodd ei drin i’r menywod hyn. Mae dirprwy fam yn opsiwn ond nid yw’n ateb y dyhead dwfn sydd gan fenywod i fagu eu babi eu hunain.”

Rhaid i fenywod sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf fod o dan 38 oed, bod mewn perthynas hirdymor a bod â phwysau iach.

Cyn i’r arbrawf ddechrau, bydd embryos yn cael eu creu a’u rhewi ac yna bydd y menywod yn cael y trawsblaniad.

Ar ôl cymryd cyffuriau a chael eu monitro am flwyddyn, fe fydd yr embryo yn cael ei blannu.

Mae angen i Richard Smith godi £500,000 ar gyfer yr arbrawf.