Fe fydd 1,700 o weithwyr yn colli eu swyddi yn dilyn penderfyniad i gau gwaith cynhyrchu dur yn Teesside.
Dywed y perchnogion o Wlad Thai, cwmni SSI, nad oedd dewis ond cau ei safle yn Redcar yn dilyn gostyngiad mewn prisiau dur eleni.
Ond mae’r undebau wedi ymateb yn chwyrn gan ddweud y dylai’r Llywodraeth gymryd peth o’r cyfrifoldeb am benderfyniad y cwmni.
Dywedodd cyfarwyddwr busnes SSI yn y DU, Cornelius Louwrens, bod “heddiw yn ddiwrnod hynod o drist i bawb yn SSI UK, yn enwedig y gweithwyr a’u teuluoedd.”
Ond ychwanegodd bod “amodau’r farchnad wedi bod yn hynod o heriol ac yn anffodus mae hynny wedi arwain at y penderfyniad heddiw.”
‘Brwydr yn parhau’
Dywedodd Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Community y byddan nhw’n cynnal cyfarfod brys gyda’r cwmni i geisio cael mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad ac y byddan nhw’n darparu cymorth i’w haelodau.
“Mae’n rhaid i ni ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur yn Teesside ac fe fydd ein brwydr yn parhau.”
Rhaid sicrhau nad yw’r sgiliau sydd wedi cael eu pasio o un genhedlaeth i’r llall yn cael eu colli, meddai.
Ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau’r safle er mwyn rhoi cyfle iddi yn y dyfodol, a’u bod am alw ar y Llywodraeth i sicrhau bod hynny’n cael ei wneud yn iawn.
“Dywedodd y Prif Weinidog y byddai ei lywodraeth yn ‘gwneud popeth o fewn ei gallu’ i gefnogi’r diwydiant dur yn y DU. Mae’n bryd iddo weithredu ar hynny.”