Michael Fallon
Fe fydd ysbïwyr Prydeinig yn parhau i gadw llygad ar aelodau mudiad yr IS yn Irac ac yn Syria, meddai Ysgrifennydd Amddiffyn llywodraeth San Steffan, Michael Fallon.

Mae wedi cyhoeddi estyniad o flwyddyn i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan awyrennau di-beilot Sentinel y Llu Awyr (RAF). Dyna ran Prydain yn yr ymgyrch sy’n cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau yn erbyn y grwp eithafol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad flwyddyn wedi i Aelodau Seneddol bleidleidio o blaid gweithredu’n filwrol yn Irac, gan gytuno i ymosodiadau o’r awyr ar IS yn y wlad honno yn fuan wedyn.

“Mae’r frwydr yn erbyn Isil yn flaenoriaeth, ac mae Prydain yn chwarae rôl allweddol,” meddai Michael Fallon.

“Mae ein lluoedd arfog wedi cymryd rhan mewn mwy na 300 o gyrchoedd, wedi bod yn rhan o’r gwaith casglu gwybodaeth, yn ogystal â hyfforddi mwy na 2,000 o filwyr lleol.

“Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud,” meddai wedyn. “Wnawn ni ddim rhoi’r gorau iddi nes y byddwn ni wedi trechu’r mudiad terfysgol a barbaraidd hwn.”