Fe fydd cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn cynnal trafodaeth ynglŷn â sgrapio arfau niwclear Trident wedi i ganghennau lleol ofyn i’r pwnc gael ei ystyried.

Mae’r gynhadledd, llai na phythefnos ers i Jeremy Corbyn gael ei ethol yn arweinydd newydd y blaid, yn cael ei chynnal yn Brighton ddydd Sul.

Mae’n golygu y bydd cyfle i Corbyn, sydd wedi cwestiynu’r angen am yr arfau, osod ei safbwynt o flaen cyd-aelodau’r blaid.

Y disgwyl yw y bydd y llywodraeth yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag adnewyddu’r taflegrau niwclear, sydd wedi’u lleoli yn Faslane yn yr Alban, rhywbryd y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i’r Blaid Lafur hefyd drafod perthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, gydag undebau llafur yn rhybuddio y byddan nhw’n ymgyrchu i adael os yw hawliau gweithwyr yn cael eu cwtogi mewn unrhyw ddiwygiadau.

Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthod

Mae nifer o wrthwynebwyr i’r syniad o adnewyddu Trident, gan gynnwys mudiad y CND, wedi dadlau na ddylai’r llywodraeth wario dros £100biliwn ar arfau niwclear newydd.

Roedd y cyn-arweinydd Llafur Ed Miliband o blaid adnewyddu’r system filwrol danfor, ond mae Jeremy Corbyn wedi dweud yn y gorffennol ei fod eisiau cael gwared a nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran CND y byddai sgrapio’r arfau niwclear yn “anfon neges i’r byd mai gwario ar heddwch a datblygu, ac edrych ar ôl anghenion pobl, yw ein blaenoriaeth”.

Yr wythnos hon mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi gwrthod cynnig yn eu cynhadledd nhw fyddai wedi ymrwymo’u Haelodau Seneddol i wrthwynebu adnewyddu Trident petai pleidlais yn cael ei gynnal ar y mater yn San Steffan.