Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi cyhuddo aelodau BAME (croenddu a lleiafrifoedd ethnig) y Blaid Lafur o fod yn hiliol eu hagweddau ati.

Mae hi’n dweud iddyn nhw ei chyhuddo hi o geisio manipiwleiddio pobol groenddu yn seicolegol i amau eu profiadau (“gaslight”) mewn perthynas â’u hofnau eu bod nhw’n dioddef gwahaniaethu.

Fe fu ffrae rhwng Priti Patel ac aelodau seneddol BAME Llafur ar ôl iddyn nhw ei chyhuddo hi o fanteisio ar ei chefndir Indiaidd i godi amheuon am brofiadau’r gymuned groenddu o hiliaeth yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd mewn llythyr na fyddai hi’n cael ei “thawelu” ynghylch y mater.

Mae hi bellach yn dweud bod aelodau seneddol BAME Llafur yn “hiliol” wrth greu darlun o’r math o agweddau ddylai fod gan fenywod o dras ethnig lleiafrifol.

‘Cydymffurfio’

Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News ei bod hi’n teimlo bod gan rai aelodau seneddol Llafur broblem bersonol â hi.

“Dw i’n credu ei bod hi’n amlwg yn achos yr aelodau seneddol Llafur hynny, oherwydd mae’n amlwg eu bod nhw o’r farn nad ydw i’n cydymffurfio i’w syniadau rhagdybus neu ystrydebol nhw o beth ddylai dynes o leiafrif ethnig sefyll drosto a’i gynrychioli,” meddai.

“Yn fy marn i, mae hynny ynddo’i hun yn hiliol.

“Mae’n siomedig iawn a dw i wedi dweud yn glir nad ydw i am roi urddas i’r llythyr hwnnw ragor.”

Cwestiynu agwedd Priti Patel at brotestiadau BLM

Mae rhai aelodau seneddol wedi codi cwestiynau am agwedd Priti Patel tuag at y protestiadau Black Lives Matter, ar ôl iddi feirniadu rhai o’u gweithredoedd.

Yn eu plith mae Naz Shah, Diane Abbott, Tan Dhesi a Rosena Allin-Khan.

“Dydy bod yn berson o liw ddim yn awtomatig yn eich gwneud chi’n awdurdod ar bob math o hiliaeth,” meddai eu llythyr.

Roedden nhw wedi bod yn galw ar Priti Patel i weithredu ar unwaith yn sgil llofruddiaeth George Floyd dan law’r heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Priti Patel yn San Steffan iddi hithau gael ei sarhau’n hiliol droeon pan oedd hi’n blentyn ac yn oedolyn, a’i bod hi wedi defnyddio cyfenw ei chymar er lles ei gyrfa.

“Felly pan ddaw i hiliaeth, rhywiaeth, goddefgarwch o ran cyfiawnder cymdeithasol, wna i ddim derbyn pregeth o du draw’r Tŷ,” meddai yn San Steffan.

Unwaith eto heddiw (dydd Sul, Mehefin 28), mae hi wedi bod yn galw ar brotestwyr i roi’r gorau i brotestio dan enw Black Lives Matter, rhag iddyn nhw achosi ail don o’r coronafeirws.

“Pan ddaw i’r protestiadau, mae yna ffyrdd eraill y gall pobol fynegi eu barn a’u safbwyntiau,” meddai wrth Sophy Ridge.

“O ran Black Lives Matter, mae yna leisiau dilys, achosion dilys, materion dilys oedd yn cael eu lleisio ar y pryd… ond fydd protestio nawr ddim yn ein helpu ni i gadw rheolaeth ar yr afiechyd ofnadwy yma, y feirws ofnadwy yma ac atal ei ymlediad.”