Mae’n ymddangos bod Tsieina yn benderfynol o basio deddfwriaeth ddadleuol yn ymwneud ag ymreolaeth Hong Kong erbyn dydd Mawrth (Mehefin 30).

Fe fu’r ddeddfwriaeth dan y lach ers cryn amser, gyda phrotestiadau yn erbyn goblygiadau’r mesur, a fyddai’n gweld Hong Kong yn colli elfennau o ymreolaeth.

Mae un o bwyllgorau Cyngres Pobol Tsieina yn ystyried y ddeddfwriaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw roi sêl bendith iddi ar ddiwedd tridiau o drafodaethau.

Pe bai’n cael ei phasio, mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi bygwth dod â thelerau masnachu ffafriol i ben ac mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd wedi cael eu hannog i benodi llysgennad ar drothwy’r hyn maen nhw’n ei galw’n “drasiedi ddyngarol”.

Ac mae Llywodraeth Prydain yn dweud y bydden nhw’n barod i roi pasbort i hyd at dair miliwn o drigolion Hong Kong.

Daeth Hong Kong yn annibynnol o Tsieina yn 1997, ac roedd y ddeddfwriaeth ar ddiogelwch cenedlaethol yn rhan o’r amodau.

Mae Tsieina wedi cyhuddo nifer o wrthwynebwyr y ddeddfwriaeth o ymyrryd yn y sefyllfa.

Y ddeddfwriaeth

Byddai’r ddeddfwriaeth yn cryfhau grym y llywodraeth, ac yn gwahardd gwrthwynebu’r llywodraeth, gweithredoedd brawychol a chydweithio ag awdurdodau tramor i beryglu diogelwch cenedlaethol.

Mae beirniaid yn dweud bod cyfreithiau yn eu lle eisoes yn ymwneud â’r materion hyn, ac mai ymgais yw’r ddeddfwriaeth newydd i dawelu gwrthwynebwyr ymhellach.

Fel rhan o’r ddeddfwriaeth, byddai llywodraeth Tsieina hefyd yn sefydlu swyddfa diogelwch cenedlaethol yn Hong Kong i gasglu a dadansoddi cudd-wybodaeth ac ymdrin â gweithredoedd sy’n peryglu diogelwch cenedlaethol.

Mae’n ymddangos hefyd y bydd gan Beijing y gair olaf am benodiadau’r llywodraeth yn Hong Kong.