Fe fydd Llywodraeth Prydain yn cefnu ar y cyfnod cwarantîn o 14 diwrnod ar gyfer pobol sy’n teithio o wledydd lle mae risg isel o’r coronafeirws.

Dyna neges y llywodraeth ddoe (dydd Gwener, Mehefin 26), wrth iddyn nhw hefyd lacio’r cyngor i beidio â theithio oni bai bod rhaid o rai gwledydd.

Mae hynny’n golygu y bydd hi’n haws i bobol o wledydd Prydain deithio ar gyfer eu gwyliau haf.

Goleuadau traffig

Bwriad y drefn newydd yw ceisio rhoi’r economi yn ôl ar ei thraed yn dilyn y feirws.

Fe fydd gwledydd yn cael eu categoreiddio yn ôl lliwiau goleuadau traffig – coch, oren a gwyrdd.

Fydd dim rhaid i bobol sy’n teithio o wledydd golau gwyrdd fynd i gwarantîn ar ôl dod i wledydd Prydain.

Dywed y llywodraeth na fyddan nhw’n oedi cyn ailgyflwyno’r cwarantîn pe bai pobol mewn perygl eto o gael eu heintio.

Mae Llywodraeth Prydain dan y lach ers tro wrth i gwmnïau teithio, meysydd awyr a’r sector lletygarwch gwyno bod diffyg teithwyr o dramor yn cael effaith ariannol ddifrifol arnyn nhw.

Bydd y drefn newydd yn dod i rym yr wythnos ar ôl nesaf, a Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi’r wythnos nesaf pa wledydd nad ydyn nhw bellach yn y categori risg uchel.