Y cyn-brif weinidog Gordon Brown
Dywed y cyn-brif weinidog Gordon Brown fod cenedlaetholdeb Seisnig yn fwy o fygythiad i ddyfodol y Deyrnas Unedig na chenedlaetholdeb yr Alban.

Wrth siarad yng ngŵyl lyfrau ryngwladol Caeredin, dywedodd y bydd dyfodol yr undeb dros y flwyddyn nesaf yn cael ei benderfynu gan ddigwyddiadau yn Lloegr yn hytrach na’r Alban.

Mae’n cyhuddo’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain o hyrwyddo cenedlaetholdeb Seisnig gyda’u hymgais i gyfyngu pleidleisiau ar faterion Lloegr i Aelodau Seneddol o Loegr.

“Felly hyd yn oed os yw pobl yr Alban yn penderfynu y bydden nhw’n hapus o gael perthynas gytbwys o hunanlywodraeth a rhannu grym, mae dimensiwn newydd yn y trefniant sy’n ein gyrru ni ar wahân,” meddai.

‘Rhyng-ddibyniaeth’

Wrth drafod datblygiadau yn yr Alban, dywed Gordon Brown mai rhyng-ddibyniaeth ac nid annibyniaeth yw’r ffordd ymlaen.

“Fe allen ni ddewis model o’r 19eg ganrif o sofraniaeth absoliwt neu fe allen ni ddewis o sofraniaeth ar y cyd a chydnabod mai rhyng-ddibyniaeth yw sail economi newydd y byd,” meddai.

Dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai’r mwyafrif o Albanwyr yn dewis trywydd rhyng-ddibynnol a galwodd am gonfensiwn cyfansoddiadol a fyddai’n chwilio am dir cyffredin rhwng gwahanol garfannau yn y wlad.

“Petai pleidleiswyr yr Alban wedi cael trydydd dewis o ‘devo-max’ yn y refferendwm y llynedd, byddai llai wedi cefnogi annibyniaeth,” meddai.