Mae merch 16 oed o Fanceinion wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o gynllwynio i ymosod yn frawychol ar blismyn yn ystod gorymdaith ar Ddiwrnod Anzac yn Awstralia.

Ymddangosodd y ferch, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, gerbron Llys Ynadon Manceinion y bore ma.

Cafodd hi a bachgen 14 oed – brawychwr ieuengaf gwledydd Prydain – eu harestio ym mis Ebrill am gynllwynio ymosodiad brawychol a gafodd ei ysbrydoli gan eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Honnir bod gan y ferch ddogfennau yn ei meddiant pan gafodd ei harestio ar Ebrill 3, a oedd yn cynnwys gwybodaeth a fyddai o ddefnydd i unigolyn sy’n cynllwynio gweithgarwch brawychol.

Roedd y dogfennau’n cynnwys canllawiau ynghylch sut i greu ffrwydron.