Twnnel y Sianel
Mae ymfudwr, yr honnir oedd wedi cerdded drwy Dwnnel y Sianel o Calais i’r DU, wedi ymddangos yn y llys.
Mae Abdul Rahman Haroun, 40, wedi ei gyhuddo o achosi rhwystr i injan neu gerbyd ar y rheilffordd o dan y Ddeddf Difrod Maleisus 1861.
Roedd Abdul Rahman Haroun, o Sudan, wedi ymddangos yn Llys y Goron Caergaint yng Nghaint drwy gyswllt fideo. Mae’n gwadu’r cyhuddiad.
Credir bod Haroun wedi cael ei ddarganfod yn y twnnel, sy’n 31 milltir o hyd, wrth ymyl yr allanfa yn Folkestone, Caint ar 4 Awst.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn y llys ar 4 Ionawr y flwyddyn nesaf.