Fe fydd prosiect newydd gwerth £7 miliwn i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl dros 25 oed yng nghymoedd y De yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Caiff y prosiect Pontydd i Waith 2 ei arwain gan Gyngor Torfaen, a bydd yn cael £5.4 miliwn o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn helpu pobl ddi-waith ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.

Bydd y prosiect tair blynedd yn darparu hyfforddiant dwys a mentora un-i-un i wella sgiliau a chyflogadwyedd dros 2,000 o bobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu’n economaidd anweithgar.

Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn cael cynnig help i chwilio am swyddi, ysgrifennu CV a help gyda sgiliau cyflwyno personol, yn ogystal â hyfforddiant galwedigaethol a chyfleoedd i ennill cymwysterau ffurfiol, gyda chymorth ychwanegol yn cael eu cynnig i bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, anghenion gofal plant ac anawsterau o ran cludiant.

Rhwystrau’

Nod y prosiect yw helpu dros 400 o bobl i symud nôl at waith yn uniongyrchol, a mwy na 1,000 i ennill cymwysterau newydd.

Bydd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt yn cyhoeddi’r cyllid hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yng Nghanolfan Addysg Cymunedol Pont-y-pŵl, lle cynhelir sesiynau hyfforddi a mentora fel rhan o’r prosiect.

Croesawodd Jane Hutt yr arian gan yr Undeb Ewropeaidd i allu gwireddu cam nesa’r prosiect: “Rwy’n falch dros ben y bydd cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu cam nesaf y prosiect Pontydd i Waith, i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gwaith a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yng nghymoedd y De.”

‘Cyllid ychwanegol’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Bob Wellington: “Rydym wrth ein boddau cael lansio Pontydd i Waith 2 gyda chyllid ychwanegol gan Undeb Ewropeaidd drwy law Llywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd:  “Led led De Cymru, cafodd miloedd o bobl help ar eu taith tuag at gyflogaeth gan y prosiect Pontydd i Waith cyntaf. Y tro hwn, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ein preswylwyr sy’n 25 oed neu drosodd ac sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu’n economaidd anweithgar.”