Harriet Harman
Fe gyhoeddodd y Blaid Lafur eu bod wedi galw cyfreithwyr i wneud yn siŵr fod yr etholiad arweinyddiaeth yn cadw at reolau’r blaid.

Gyda miloedd o bobol yn talu £3 am yr hawl i gael pleidleisio, fe ddywedodd yr arweinydd dros dro, Harriet Harman, ei bod wedi ceisio cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau na fydd modd herio’r canlyniad yn y llysoedd.

  • Bellach, mae un cwmni betio wedi  penderfynu bod yr ymgeisydd asgell chwith, Jeremy Corbyn, mor sicr o ennill nes eu bod wedi dechrau talu arian i’r rhai sydd wedi betio arno.
  • Heddiw hefyd, mae’r papur newydd Albanaidd, The Daily Record, wedi cefnogi Jeremy Corbyn.
  • Ac mewn araith o flaen 1,200 o bobol yn Newcastle, fe ddywedodd Jeremy Corbyn ei hun fod ei bolisïau wedi cael ymateb dda mewn ardaloedd ble roedd plaid UKIP wedi perfformio’n dda yn yr etholiad cyffredinol diwetha’.