Mae cwmni yswiriant ceir o Gymru wedi cyhoeddi cynnydd o 1% yn ei elw chwe mis.

Fe gododd elw Admiral i fwy na £186 miliwn yn ystod yr hanner blwyddyn hyd at fis Mehefin.

Mae gan y cwmni swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe ac mae wedi creu mwy na 280 o swyddi yn yr ardal yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Mae’r cwmni ar ei ffordd i wneud yn well na’r llynedd – y flwyddyn gynta’ iddo fethu â thorri ei record ar gyfer elw blynyddol.

Mae gan y cwmni bellach bron 4.2 miliwn o gwsmeriaid.