Mae’r bobol wnaeth oroesi damwain awyren Manceinion “yn dal i aros am ymddiheuriad”, 30 mlynedd wedi’r digwyddiad a laddodd 55 o bobol.

Fe aeth awyren Boeing 737 y cwmni British Airtours, a oedd ar ei ffordd i Corfu, ar dân wrth iddi gyflymu ar y rynwe ar Awst 22, 1985.

Bydd teuluoedd a chyfeillion y bobol a laddwyd, yn ogystal â theithwyr a oroesodd y ddamwain, yn mynd i wasanaeth preifat ym Maes Awyr Manceinion ddydd Sadwrn nesa’ i nodi 30  mlynedd.

British Airtours oedd enw’r adran siarter o gwmni British Airways yn 1985.