Yr Arglwydd Janner
Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r Arglwydd Janner wedi colli cais yn yr Uchel Lys i’w atal rhag cael ei orfodi i fynd i’r llys yfory i wynebu cyhuddiadau o gam-drin plant.

Cafodd y cyn-Aelod Seneddol Llafur orchymyn i ymddangos yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain mewn perthynas â 22 o gyhuddiadau dros gyfnod o’r 1960au hyd yr 1980au.

Mae ei dîm cyfreithiol wedi mynnu fod y dyn 87 mlwydd oed yn dioddef o ddementia ac y byddai ei orfodi i ymddangos gerbron y llys yn anghyfreithlon ac yn tarfu ar ei hawliau dynol.

Roedden nhw eisiau atal y gwrandawiad yfory er mwyn cael amser i ofyn am adolygiad barnwrol o’r penderfyniad fod yn rhaid iddo fod yn bresennol.