Menyn - 'dim peryg' yn y braster
Does dim tystiolaeth bod braster mewn bwydydd fel cig a menyn yn cynyddu’r peryg o farwolaeth, yn ôl astudiaeth newydd.

Ond mae’r mathau o fraster gwneud sydd mewn bwydydd parod a marjarîn yn gwneud drwg, meddai’r erthygl yn y cyfnodolyn meddygol, y British Medical Journal.

Mae’r rheiny’n cynyddu’r peryg o farwolaeth ac, yn arbennig, o strôc a chlefyd y galon, yn ôl yr ymchwilyr o Brifysgol McMaster yng Nghanada.

Astudiaethau

Roedd yr ymchwilwyr wedi edrych ar 50 o astudiaethau o arferion bwyta cyn dod i’w casgliadau, sy’n mynd yn groes i gyngor yr awdurdodau iechyd y dylai pobol fwyta llai o bethau fel cig a menyn.

Ar y llaw arall, doedd yr ymchwilwyr ddim yn argymell y dylai pobol fwyta rhagor o fraster fel sydd mewn cig, wyau a menyn.

Doedd dim tystiolaeth fod y rheiny’n gwneud lles i iechyd pobol, meddai’r prif ymchwilydd, Russell de Souza.

Brasterau

Braster dirlawn – saturated – sydd mewn bwydydd naturiol tra bod braster ‘trans’ sydd mewn marjarîn a llawer o fwydydd parod yn cael ei greu’n artiffisial.