Tim Farron
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi galw ar arweinwyr pleidiau eraill i gefnogi’r cynnig i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Daw hyn yn dilyn yr honiadau difrïol diweddar yn erbyn yr Arglwydd Sewel a arweiniodd at ei ymddiswyddiad o Dŷ’r Arglwyddi heddiw.

Fe ymddiswyddodd yn dilyn honiadau ei fod wedi cymryd cyffuriau gyda phuteiniaid yn ei fflat yn Llundain.

Mae Tim Farron yn galw am newid, am fod achos yr Arglwydd Sewel yn arwydd o system ehangach sy’n “bwdr i’w graidd”.

Ond, nid oedd y Prif Weinidog David Cameron yn credu fod pwrpas ailgynnau’r ddadl am ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi, ac mae wedi cadarnhau y bydd yn penodi mwy o Arglwyddi’r Ceidwadwyr i’r Ail Siambr.

‘Angen ysgydwad mawr’

Mae Tim Farron am gael cefnogaeth arweinwyr y pleidiau i greu confensiwn cyfansoddiadol a fydd yn ystyried ailwampio’r modd y caiff Arglwyddi eu hethol i’r Ail Siambr, ynghyd ag edrych ar faterion yn ymwneud â datganoli.

“Mae angen ysgydwad mawr”, meddai, ac mae’n galw am drafodaeth i ailedrych ar berthynas San Steffan â’r llywodraethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae cynnig hefyd i greu siambr ffederal a fydd yn rhoi cyfle i ranbarthau Lloegr gael cydnabyddiaeth ffurfiol yn yr Ail Siambr.

“Nid un afal drwg sydd yma”, meddai Tim Farron, “ond system gyfan sy’n bwdr i’w graidd”, ac mae’n gofyn am fesurau i’w gwneud hi’n haws i gael gwared ag Arglwyddi sy’n dod ag anfri ar y Llywodraeth.

‘Penodi arglwyddi ar sail etifeddiaeth’

Croesawodd Paul Flynn, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, y cynnig gan ddweud fod rhaid “rhoi stop ar y busnes o ddewis pobol ar sail etifeddiaeth i’r siambr”. “Mae’n amlwg fod hynny’n dal i ddigwydd,” meddai, a chredai’n gryf fod angen ailedrych ar y system o sut y caiff Arglwyddi eu penodi i Dŷ’r Arglwyddi.

Ategodd bod yr Ail Siambr yn gwneud gwaith pwysig wrth “edrych ddwywaith ar lywodraethau Tŷ’r Cyffredin”, ac roedd e’n cynnig y dylid sefydlu system ffederal i sicrhau cynrychiolaeth deg.

Penodi mwy i Dŷ’r Arglwyddi

Mae maint yr Ail Siambr wedi chwyddo’n ddiweddar, gyda 790 o aelodau ynddo, ac mae hynny’n golygu mai dyna’r corff deddfwriaethol mwyaf y tu allan i China.

Ond, mae David Cameron wedi cadarnhau y bydd yn penodi rhagor o Arglwyddi Ceidwadol i’r Ail Siambr er mwyn cynnal y cydbwysedd â gweddill y pleidiau.

Bydd hyn yn sicrhau “adlewyrchiad cywirach o Dŷ’r Cyffredin yn Nhŷ’r Arglwyddi”, meddai’r Prif Weinidog.

Nid oedd David Cameron chwaith yn gweld pwrpas i ailgynnau’r ddadl am ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi am fod y cynnig eisoes wedi’i wrthod gan yr wrthblaid yn y Senedd ddiwethaf. Roedd y cyn Arglwydd, y Farwnes Hayman, o’r farn bod angen diwygio’r Ail Siambr, a chredai y dylai unigolion sydd ag arbenigedd penodol gael eu recriwtio i Dŷ’r Arglwyddi.