Ty'r Arglwyddi
Mae gwleidyddion wedi croesawu ymddiswyddiad yr Arglwydd Sewel o Dŷ’r Arglwyddi heddiw yn dilynhoniadau ei fod wedi cymryd cocên gyda phuteiniaid yn ei fflat.

Roedd y cyn-weinidog Llafur wedi ildio i bwysau cynyddol i ymddiswyddo yn  dilyn yr honiadau ym mhapur The Sun on Sunday.

Mae Heddlu Llundain yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau.

Fe ymddiheurodd yr Arglwydd Sewel, 69, am “y loes a’r embaras” yr oedd wedi ei achosi. Roedd ganddo gyfrifoldeb dros gynnal safonau’r Arglwyddi.

‘Ennyn hyder’

Dywedodd y Farwnes Stowell, Arweinydd  Tŷ’r Arglwyddi: “Rwy’n croesawu penderfyniad yr Arglwydd Sewel i ymddiswyddo’n barhaol.

“Er mwyn i Dy’r Arglwyddi ennyn hyder y cyhoedd, mae’n rhaid i ni gyd barchu’r breintiau a ddaw gyda’r swydd a derbyn – gan nad ydym yn cael ein hethol – ei bod yn hynod o bwysig cwrdd â’r safonau mae gan y cyhoedd yr hawl i’w disgwyl, a’n bod yn ymateb yn brydlon pan rydym yn methu.”

Dywedodd yr Arglwydd Hill o Oareford, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi, mai penderfyniad Sewel i ymddiswyddo “oedd y peth iawn i’w wneud.”

“Rwy’n credu os ydych chi’n gyfrifol am osod safonau yna mae’n rhaid i chi eich hun wneud yn siŵr eich bod yn eu gweithredu,” meddai.

‘Anochel’

Dywedodd y Farwnes Brinton o’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth BBC2: “Mae ’na deimlad o ryddhad ei fod, o’r diwedd, wedi deall y niwed mae wedi’i achosi.

“Nid yn unig yw hyn yn ymwneud a’r ymchwiliad gan yr heddlu i’r cyffuriau a’r puteiniaid, ond y sylwadau hynod o ragfarnllyd a hiliol a wnaeth am ferched Asiaidd.”

Roedd ei ymddiswyddiad yn “anochel” meddai.

‘Angen diddymu’r ail siambr’

Mae’r sgandal wedi ysgogi galwadau o’r newydd am sgrapio Tŷ’r Arglwyddi.

Mae’r siambr wedi chwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae 783 o aelodau ar hyn o bryd.

Ac mae disgwyl i David Cameron benodi dwsinau o arglwyddi newydd i’r Tŷ yn y dyfodol agos.

Mae Robert Griffiths, Ysgrifennydd Cyffredinol y  Blaid Gomiwnyddol wedi galw am ddiddymu Tŷ’r Arglwyddi yn ei ffurf bresennol.

Dywedodd fod “cymaint o arian yn cael ei wario ar dreuliau yn tanlinellu’r angen i ddiddymu’r ail siambr”.

“Os yw’r Aelodau Seneddol yn gwneud eu gwaith, yna does dim angen yr ail siambr,” meddai.

Ond, “os yw’r angen am ail siambr yn parhau”, meddai, roedd e’n cynnig y dylid creu siambr ffederal ar gyfer deddfau Lloegr yn unig.

Byddai hynny’n golygu torri’n ôl ar yr aelodau, oherwydd “does dim angen yn agos at 800 o aelodau i weithio o fewn y siambr,” ychwanegodd.

‘Dewis pobol ar sail etifeddiaeth’

Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol y Blaid Lafur wedi ymateb hefyd, gan ddweud bod rhaid “rhoi stop ar y busnes o ddewis pobol ar sail etifeddiaeth i’r siambr”.

Roedd o’r farn ei bod hi’n dal yn bwysig i gael ail siambr er mwyn “edrych ddwywaith ar lywodraethau Tŷ’r Cyffredin”, ond bod angen ailedrych ar y system o ethol yr aelodau.

Roedd e’n cynnig y dylid sefydlu system ffederal er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg yn y siambr.

Roedd e hefyd yn gofyn am ddiddymu’r “hen nonsens” o gydnabod teitlau’r Arglwyddi.