Tim Farron
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi mai Tim Farron sydd wedi cael ei ethol fel arweinydd newydd y blaid, gan olynu Nick Clegg.
Cafodd cyn-lywydd y blaid 56.5% o’r bleidlais gan drechu’r unig ymgeisydd arall, Norman Lamb, a gafodd 43.5%.
Roedd y blaid wedi gorfod dewis arweinydd newydd ar ôl i Clegg gamu lawr yn sgil canlyniadau trychinebus yr etholiad cyffredinol a adawodd y Democratiaid Rhyddfrydol â dim ond wyth AS yn San Steffan.
Wrth ddiolch i’w gefnogwyr am ei ethol dywedodd Tim Farron, sydd yn Aelod Seneddol yn ardal Cumbria, mai ei swydd e nawr fyddai troi “miliynau o ryddfrydwyr drwy Brydain yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol”.
‘Arweinydd gwych’
Wrth ymateb i’r canlyniad dywedodd Norman Lamb y byddai Tim Farron yn arweinydd “gwych”.
Ac yn ôl Nick Clegg roedd y blaid wedi ethol y dyn fyddai’n aildanio gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae Tim Farron yn ymgyrchydd gwych ac yn ddyn â gonestrwydd ac argyhoeddiad. Mae’n gyfathrebwr naturiol gyda’r gallu prin i ysbrydoli pobl a denu nhw at ein hachos.
“Mae’n gwybod sut mae ennill a does gen i ddim amheuaeth y gallai o godi’r blaid ar ei thraed a’i chael hi i ymladd unwaith eto.”
‘Ffrind i Gymru’
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, fe fydd gallu Tim Farron i gysylltu â phobl gyffredin yn hwb i’w phlaid wrth symud ymlaen.
“Rydyn ni’n hynod o lwcus fel plaid o fod wedi cael dau ymgeisydd arweinyddiaeth gwych, a dw i’n gwybod y bydd Norman yn parhau i chwarae rhan allweddol o fewn y blaid dros y blynyddoedd nesaf.
“Mae Tim wastad wedi bod yn ffrind mawr i Gymru. Mae e’n deall ein cenedl, ein traddodiadau, ac – yn fwy na dim – pwysigrwydd etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf i dirwedd wleidyddol Cymru.”