John Whittingdale
Gallai ffi’r drwydded y BBC gael ei ddisodli gan danysgrifiad yn y tymor hir, meddai’r Ysgrifennydd Diwylliant heddiw.

Wrth gyhoeddi Papur Gwyrdd y Llywodraeth, dywedodd John Whittingdale nad oes unrhyw “ateb hawdd” i’r cwestiwn cyffredinol o sut mae ariannu’r gorfforaeth.

Dywedodd y gallai model tanysgrifiad fod yn opsiwn yn y tymor hwy, ond ni all weithio yn y tymor byr oherwydd diffyg technoleg i reoli mynediad at y gwasanaeth.

Ffi’r drwydded ddiwygiedig, ffi am bob cartref neu “model ariannu hybrid” yw’r opsiynau tymor byr a fydd yn cael eu hystyried, dywedodd John Whittingdale.

Wrth wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â diwygio siarter y BBC, dywedodd John Whittingdale mai un dasg allweddol yw asesu os yw’r syniad fod pawb yn defnyddio gwasanaethau’r BBC yn “dal dŵr” yn y byd sydd ohoni.

Dywedodd hefyd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r cwestiwn a ddylai gwerthoedd y BBC gael eu diffinio yn y siarter yn ogystal â beth ddylai’r gwerthoedd hynny fod.

Dywedodd y bydd yr adolygiad sydd ar y gweill yn edrych os yw’r BBC yn briodol ar gyfer amgylchedd y cyfryngau ar hyn o bryd ac os yw’n cyflawni’r hyn y mae cynulleidfaoedd yn fodlon talu amdano.

Meddai John Whittingdale fod y BBC wedi gwneud “cynigion radical” i droi adran gynhyrchu’r gorfforaeth yn  is-gwmni masnachol. Dywedodd y byddai’r cynnig hwnnw yn cael ei ystyried gydag opsiynau eraill i’w ddiwygio fel rhan o’r adolygiad siarter, ynghyd ag archwiliad o BBC Worldwide.

Ychwanegodd na ddylai annibyniaeth olygyddol y BBC gael ei beryglu.

Dywedodd y dylai ariannu S4C gael ei ystyried fel mater “ar wahân” gyda Llywodraeth Cymru.

‘Toriadau enfawr’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i  gyhoeddiad y Papur Gwyrdd.
Meddai Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Wrth edrych ar yr ymgynghoriad, mae S4C a’r Gymraeg yn edrych yn ymylol i’r ddogfen. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi gwneud toriadau enfawr ac sy’n peryglu bodolaeth ein hunig sianel Gymraeg.

“Mae’r sianel, a’r Gymraeg, eisoes wedi talu pris anghymesur am y dirwasgiad. Nawr bod y dirwasgiad drosodd, pam nad oes awgrym bod cyllideb y sianel yn mynd i ddychwelyd i’r lefelau cyn y toriadau?

“Dylai’r Llywodraeth adfer y buddsoddiad yn S4C i’r lefelau a roddwyd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu’r sianel mewn statud. Dyna sut y bydd yn gallu bod yn annibynnol ar unrhyw ddarlledwr arall, yn ariannol, yn strategol ac yn olygyddol.
“Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Dyna’r hyn mae angen i’r Llywodraeth ei ddeall. Tra bod y cyfryngau Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu’n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig.”

‘Dim llais o Gymru’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth Geidwadol am fethu a chael cynrychiolydd o Gymru ar y panel sy’n diwygio’r siartr frenhinol.

Dywedodd Peter Black AC, llefarydd diwylliant y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Fe fydd ein plaid yn brwydro i sicrhau dyfodol S4C. Roedd ein plaid wedi chwarae rôl allweddol wrth sicrhau setliad presennol S4C ac ni fyddwn yn caniatáu i’r Torïaid ddadwneud y gwaith da yma.”