Fe fydd cwsmeriaid yn gorfod talu mwy am ynni dros y gaeaf wrth i’r Grid Cenedlaethol geisio sicrhau eu bod nhw’n cynnal capasiti.

Mae cau gorsafoedd pŵer yn golygu mai capasiti o 1.2% sy’n weddill.

Bydd cynlluniau wrth gefn ar gyfer oriau brig yn sicrhau 2.56GW o bŵer ac yn codi capasiti i 5.1%, ond maen nhw wedi costio £36 miliwn – gan ychwanegu 50 ceiniog at filiau ynni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol fod cau gorsafoedd pŵer wedi gwasgu’r diwydiant.

“Fel gweithredwr systemau, rydym yn teimlo ein bod ni wedi cyflwyno camau synhwyrol unwaith eto’r gaeaf hwn i brynu gwasanaethau ychwanegol.”

‘Talu gormod’

Ond mae gwefan moneysavingexpert.com yn dweud ei fod yn newyddion drwg i gwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd: “Does dim croeso i unrhyw fath o gynnydd ym mhris ynni, hyd yn oed os yw’n golygu y gall y Grid ymdopi â chynnydd yn y galw am ynni.

“Ond y gwir amdani yw fod llawer iawn o bobol yn talu gormod eisoes.”

Dywedodd Gweinidog Ynni San Steffan, Andrea Leadsom: “Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gan deuluoedd a busnesau ym Mhrydain fynediad i gyflenwad ynni fforddiadwy a diogel y gallant ddibynnu arno.”

Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi cyfres o sefyllfaoedd ar gyfer dyfodol system ynni gwledydd Prydain.