Paul Flynn
Fe fydd cynlluniau i roi’r gair olaf i  Aelodau Seneddol o Loegr ar faterion yn ymwneud a Lloegr yn unig yn “cydnabod llais Lloegr”, meddai Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Chris Grayling.

Ond mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi wfftio’r cynlluniau gan ddweud y byddan nhw’n “arwain at anhrefn llwyr ac, yn y pen draw, at ddarnio’r Deyrnas Unedig.”

Fe fydd yna gymal newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer deddfwriaeth sy’n mynd drwy’r Senedd, pan fydd ASau o Loegr, neu Lloegr a Chymru,  yn cael pleidleisio ynglŷn â deddfwriaeth sy’n effeithio ar eu hetholaethau, cyn iddo basio’r trydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd Chris Grayling bod y newid hwn “yn rhan o becyn ehangach datganoli ac mae’n gam allweddol ymlaen sy’n sicrhau fod setliad y cyfansoddiad yn deg ac yn gymwys ar gyfer y dyfodol.”

Mynnodd Chris Grayling na fydd deddfwriaeth sy’n effeithio ar Loegr yn unig yn cael ei phasio heb ganiatâd Aelodau Seneddol o Loegr.

‘Rhannu’r DU’

Ond mae Paul Flynn yn teimlo nad yw’r cynlluniau hyn yn dal dŵr: “Nid ydym yn symud ymlaen mewn ffordd resymol, ac ni ddylen ni wneud hyn dim ond oherwydd bod un blaid yn dymuno hyn ar y sail eu bod yn teimlo fod yr Alban yn cael manteision dros Loegr.

“Os ydym yn bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau hyn ar y sail hynny, fe fyddem yn dyfnhau’r gwahaniaethau rhwng y gwledydd, gan wneud hi’n fwy tebygol o rannu’r Deyrnas Unedig.”

‘Dicter’

Ychwanegodd Paul Flynn: “Mae yna beryg y bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl. Mae angen  gwneud cynigion sydd wedi’u teilwra, nid rhywbeth sydd wedi cael ei wneud mewn camau ad-hoc fel y mae’r cynlluniau hyn yn ei ddangos, sy’n  ddibynnol yn unig ar bleidleisiau yn Nhy’r Cyffredin. Roedd yna gymaint o ddicter yno bore yma ynghylch y syniad yma.”

‘Anhrefn’

Mae Paul Flynn yn teimlo fod sicrhau pleidlais i ASau o Loegr yn unig yn ddianghenraid ac fe fydd yn creu anhrefn: “Mae’n creu system wallgo’ sy’n esgor ar ddau ddosbarth o Aelodau Seneddol.

“Mae’n gwbl ddianghenraid a bydd yn creu pob math o broblemau ac mae’n sicr o arwain at anhrefn llwyr.”