Tîm ras 4x100m merched Ynys Môn, sydd wedi cyrraedd ffeinal eu cystadleuaeth dydd Gwener
Does dim byd fel cael y cyfle i ddianc i’r haul yn ystod misoedd yr haf, a dyna’n union mae eitem Tîm yr Wythnos Golwg360 yn ei wneud yr wythnos yma wrth i ni fynd draw i ynysoedd Jersey i ddilyn ein tîm diweddaraf.

Ers dydd Sul mae athletwyr a thimau chwaraeon o Ynys Môn wedi bod yn cystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd, cystadleuaeth chwaraeon sydd yn digwydd bob dwy flynedd.

Cafodd y Gemau cyntaf eu cynnal ar Ynys Manaw yn 1985, ac ers hynny maen nhw wedi tyfu i gynnwys 25 ynys o bob cwr o’r byd sydd yn dod at ei gilydd i gystadlu mewn 16 o wahanol gampau.

Mae’r tiriogaethau sydd yn cymryd rhan yn cynnwys nifer o ynysoedd eraill Prydain gan gynnwys Guernsey, Orkney a’r Shetlands, ynysoedd Ewropeaidd fel Aland, Faro a Rhodes yn ogystal ag ambell un o bellach i ffwrdd eto fel Bermuda a’r Falklands.

Gydag athletwyr 15 oed a hŷn yn cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae’n aml yn gallu bod yn le i gael cip ar rai o sêr ifanc y dyfodol.

Ac yn ogystal â’r cystadlu’r wythnos hon mae athletwyr Môn wedi cael rheswm arall i gyffroi, gyda chais wedi cael ei gyflwyno i geisio denu’r Gemau i’r ynys am y tro cyntaf erioed yn 2025.

Dyma neges fach gan dîm athletau Môn i ddarllenwyr Golwg360 (cyn iddyn nhw ennill rhagor o fedalau heddiw!):

Chwe medal


Iolo Hughes, enillydd medal gyntaf Ynys Môn yn Jersey
Mae cystadleuwyr Môn eisoes wedi cael tipyn o lwyddiant ar y cystadlu, yn dilyn tair medal efydd o’r tri diwrnod cyntaf o gystadlu.

Cipiodd Iolo Hughes drydydd safle yn ras 5km y dynion dydd Llun, cyn i Conor Laverty (taflu disgen y dynion) a Mikaela Harrison (400m y merched) gael medalau efydd dydd Mawrth.

Ac mae’r tîm bellach wedi ennill eu medalau aur cyntaf, ar ôl i’r cystadleuwyr hwylio ennill tair arall prynhawn dydd Iau.

Daeth Môn yn gyntaf yn y gystadleuaeth hwylio tîm gyda’r pedwarawd o Dom Breen-Turner, Eifion Mon, Michael Thorne a Benjamin Todd, ar ôl i’r cystadlu orfod gorffen yn gynnar.

Ac mae dau o’r hwylwyr hefyd wedi ennill medalau unigol, gydag Eifion Mon yn dod yn gyntaf yn y gystadleuaeth Laser Standard a Benjamin Todd yn cael aur yn y Laser Radial.

Cystadlu … ac yna ymlacio


Connor Laverty ar ôl ennill medal efydd yn taflu'r ddisgen
Yn ôl Emma Roberts, 24, sydd yn rhedeg yn nhîm merched y ras gyfnewid 4x100m ac yn cystadlu yn ei phedwaredd Gemau, doedd y tîm athletau ddim yn disgwyl gwneud cystal ar ddechrau’r wythnos.

“Roedd o’n dipyn bach o sioc, doedden ni ella ddim yn disgwyl cymaint achos bod y safon lot uwch eleni, ac mae tîm ifanc sydd genna ni,” meddai’r rhedwraig.

Cyfaddefodd Connor Laverty, a enillodd fedal efydd yn taflu’r ddisgen, fod ei fuddugoliaeth yntau’n annisgwyl. Ond ag yntau ddim ond yn 19 oed, mae’n obeithiol iawn o fod dal yn cystadlu os daw’r Gemau i Fôn ymhen deng mlynedd.

“Fyswn i’n gobeithio mod i dal yn cystadlu yn 2025,” meddai.

“Dydi taflwyr ddim yn peakio tan eu 20au hwyr a 30au cynnar, felly ‘sa fo’n grêt gallu cystadlu o hyd yn Ynys Môn.”

Gyda llai na dau ddiwrnod o gystadlu ar ôl, mae rhai o’r athletwyr eisoes yn dechrau meddwl am y dathliadau ar ddiwedd yr wythnos.

“Nos Wener mae ‘na seremoni gloi ac wedyn maen ‘na barti mawr i orffen,” esboniodd Emma Roberts.

“Mae pawb yn cyfnewid cit a ballu, mae’n gyfle i ymlacio – mae o’n rhyw fath o uchafbwynt ar yr wythnos. Mae pawb yn bihafio ar hyn o bryd, ond ella fydd o’n wahanol erbyn nos Wener!”

Denu’r gemau i Fôn


Mikaela Harrison ar y podiwm yn derbyn ei medal efydd hi
Mae tîm yr ynys eisoes wedi cyflwyno cais i geisio denu Gemau’r Ynysoedd i Fôn, gyda’r gobaith y bydd yr ynysoedd eraill yn cefnogi’r cais hwnnw.

Ac mae gweld cymaint o gefnogaeth sydd wedi bod yn Jersey eleni wedi bod yn hwb mawr i’r athletwyr yn ôl Brea Leung, sydd yn cystadlu yn yr ornest taflu disgen i ferched.

“Mae pawb ‘di gwirioni [efo cais Ynys Môn], ni ydi’r unig founding member sydd heb gael cynnal y Gemau eto, felly dw i’n meddwl bod pawb eisiau dod drosodd i Ynys Môn,” meddai Brea Leung.

“Sa’n grêt cael gymaint o bobl i ddod draw a chystadlu. Mae ’na 3,000 o bobl yn Jersey eleni ac mae gennych chi hefyd yr holl hyfforddwyr a chefnogwyr.

“Mi fysa’n grêt i’r ynys tasa fo’n dod. Yn fan hyn [Jersey] mae’r gwestai a’r bwytai i gyd yn fully booked, felly dw i’n siŵr ‘sa fo’n dod i Ynys Môn ‘sa fo’n dda iawn i’r economi.

“Mae lot o’r athletwyr o wledydd eraill yn deud y bysa nhw’n edrych ymlaen at ddod i Ynys Môn.”

Gallwch ddilyn holl ganlyniadau diweddaraf y gystadleuaeth ar wefan www.jersey2015.com, a’r diweddaraf gan dîm Ynys Môn ar gyfrif Twitter @YMIGAathletics.