Bydd Awstralia wedi gwneud eu gwaith cartref mewn ymgais i adnabod gwendidau Lloegr erbyn i brawf cyntaf Cyfres y Lludw ddechrau yng Nghaerdydd ar Orffennaf 8, yn ôl y chwaraewr amryddawn Mitchell Marsh.

Cafodd carfan Lloegr ei henwi ddydd Mercher, ac mae’r 14 terfynol yn cynnwys y troellwr coes Adil Rashid o Swydd Efrog am y tro cyntaf.

Mae paratoadau Marsh yntau wedi dechrau yn y modd gorau posib, wedi iddo daro dau ganred yn y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Swydd Essex a Swydd Gaint ar ddechrau’r daith.

Fe allai’r perfformiadau hynny olygu bod Marsh yn cael ei ystyried ar gyfer y tîm sy’n dechrau’r gyfres yn y Swalec SSE.

Ac mae’n debyg y caiff e rywfaint o gyngor gan ei frawd Shaun, a dreuliodd gyfnod yn chwarae i Forgannwg yn 2012.

Paratoi

Wrth drafod lle Rashid yng ngharfan Lloegr, dywedodd Mitchell Marsh: “Dw i ddim yn credu ei bod yn syndod, gan ei fod e wedi bod yn gwneud yn dda iawn.

“Yn bersonol, dw i ddim yn gwybod llawer iawn amdano fe, ond dw i’n sicr y byddwn ni’n gwneud ein gwaith cartref dros yr wythnosau nesaf cyn y prawf cyntaf hwnnw.

“Mae’r ffordd ymosodol yn dod i mewn i’r cyfan pan ydych chi’n chwarae i Awstralia, felly fydd hi ddim yn wahanol yn ei erbyn e.”

Ar yr un pryd, mae’n anochel y bydd Marsh yn awyddus i ganolbwyntio ar ei berfformiadau ei hun wrth geisio ennill ei le yn y tîm.

“Mae’r dechreuad wedi bod yn braf ac mae’n wych cael cyfrannu i’r tîm hwn, a gobeithio y galla i barhau i wneud hynny.

“Dw i’n sicr ddim yn rhoi pwysau arna i fy hun. Ar ddiwedd y dydd, does dim ots lle’r y’ch chi’n batio nac yn bowlio, os cymerwch chi ddigon o wicedi a sgorio digon o rediadau, bydd y dewiswyr yn eich dewis chi rywbryd.

“Dw i’n mwynhau’r cyfan, ac mae’n fraint cael bod ar y daith.”