Jazz Richards yn chwarae i Abertawe (llun: Benjamin Blackler/cc2.0)
Mae Abertawe wedi cadarnhau bod yr amddiffynnwr Jazz Richards wedi symud i Fulham.

Dyw’r ffi heb gael ei ddatgelu ond roedd sôn yn ddiweddar bod y clwb o Lundain wedi cynnig £500,000 am y cefnwr dde.

Mae’r Cymro 24 oed wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda Fulham, ble chwaraeodd 14 o weithiau ar fenthyg y tymor diwethaf.

Ei reolwr gyda’i glwb newydd yn y Bencampwriaeth fydd Kit Symons, cyn-is hyfforddwr tîm cenedlaethol Cymru.

Gadael yr Elyrch

Fe ddaeth Jazz Richards, sydd yn dod o Frynmelyn, drwy system ieuenctid Abertawe cyn chwarae dros y tîm cyntaf pan oedden nhw dal yn y Bencampwriaeth.

Mae wedi chwarae 51 o weithiau dros y clwb yn gyfan gwbl, gan gynnwys 18 o weithiau yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae’n aml wedi bod yn ail ddewis fel y cefnwr dde yn Abertawe y tu ôl i chwaraewyr fel Angel Rangel a nawr Kyle Naughton, ac mae wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Crystal Palace a Huddersfield.

Mae’r amddiffynnwr hefyd wedi ennill pum cap dros Gymru, gan gynnwys yn y fuddugoliaeth ddiweddar dros Wlad Belg pan gafodd glod mawr am gadw’r ymosodwr Eden Hazard yn ddistaw.