Roedd Y Seintiau Newydd yn llawn haeddu eu buddugoliaeth neithiwr yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr, yn ôl eu cyfarwyddwr pêl-droed Craig Harrison.

Llwyddodd y Seintiau i ennill oddi cartref o 2-1 yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Faro, diolch i gôl hwyr Michael Wilde.

Os ydyn nhw’n mynd drwyddo ar ddiwedd yr ail gymal wythnos nesaf yng Nghroesoswallt fe fyddan nhw’n wynebu pencampwyr Hwngari, Videoton, yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth.

Creu hanes

Roedd llai na pum munud wedi mynd ar ddechrau’r gêm pan sgoriodd y tîm cartref y gôl agoriadol, gyda Hans Pauli Samuelsen yn rhwydo i B36.

Ond dau funud yn ddiweddarach roedd y Seintiau’n gyfartal wrth i Scott Quigley fanteisio ar gyfle yn y cwrt cosbi, cyn i Wilde rwydo’r gôl fuddugol yn y munud olaf.

Dyma’r tro cyntaf i’r Seintiau Newydd ennill gêm oddi cartref yng Nghynghrair y Pencampwyr, a dyma oedd eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth ers 2011.

“Roedden ni’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth, roedd hi’n gêm agored – ychydig yn rhy agored i mi, gan mai ni oedd oddi cartref – ond fe gawson ni ddau neu dri chyfle i sgorio mwy o goliau o bosib,” meddai Craig Harrison.

“Fe fyddwn ni’n mynd i’r ail gymal gartref yn gobeithio ennill. Yn amlwg mae’n rhaid i B36 ddod allan a sgorio, ond dw i’n hyderus y gallwn ni sgorio o leiaf un gôl gartref.

“Mae digon o gyflymder a safon yn ein tîm ac rydyn ni’n dda iawn yn gwrthymosod.”