Mae pryderon bod teulu o 12 o Luton sydd ar goll wedi teithio i Syria.
Doedd y 12, sy’n cynnwys babi a phobol oedrannus, ddim wedi dychwelyd adref o’u gwyliau ym Mangladesh.
Roedden nhw wedi teithio o Heathrow i Istanbul ar Ebrill 10, a dydyn nhw ddim wedi cael eu gweld ers hynny.
Mae’r 12 yn amrywio mewn oedran o flwydd i 75.
Mewn datganiad, dywedodd aelodau eraill y teulu eu bod nhw wedi cael eu “twyllo”.
“Rydyn ni ar chwâl ynghylch diflaniad y 12 hyn ac yn bryderus iawn am eu diogelwch.”
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw’n gofidio bod y 12 mewn perygl yn dilyn eu hymddygiad “anarferol”.
“Dydy hyn oll jyst ddim yn gwneud synnwyr. Allwn ni ddim ond meddwl eu bod nhw wedi cael eu twyllo i fynd yno, nid yw’n le addas ar gyfer pobol oedrannus nac ifanc.”
Apeliodd y teulu ar y 12 i gysylltu â nhw.
Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau i geisio dod o hyd iddyn nhw.