Anne Lakey
Mae prifathrawes wedi cael ei charcharu am wyth mlynedd ar ôl ei chael yn euog o gael rhyw gyda dau fachgen  yn y 1980au.

Clywodd Llys y Goron Durham bod Anne Lakey, 55, wedi manteisio ar y bechgyn pan oedd hi’n athrawes hanes yn ei 20au.

Aeth Anne Lakey ymlaen i gael gyrfa ddisglair gan ennill clod gan yr Adran Addysg am fod yn “arweinydd ysbrydoledig.”

Ond yn 2012 roedd un o’r dioddefwyr, bachgen 13 oed ar y pryd, wedi anfon e-bost at yr ysgol gan arwain at ei gwahardd o’i gwaith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu.

Cafwyd Lakey,  o Stanley yn Sir Durham, yn euog o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn.

Nid oedd y bachgen 13 oed yn un o’i disgyblion ond roedd yn un o grŵp o fechgyn a fyddai’n mynd i’w chartref.

‘Naïf’

Fe fyddai Lakey yn ei ganiatáu i gyffwrdd ei bronnau a siarad gyda hi tra roedd hi yn y bath. Yn ystod un o’r ymweliadau roedd Lakey wedi cael rhyw gyda’r bachgen ac roedd eu perthynas rywiol wedi parhau am rai misoedd.

Mae bachgen arall hefyd wedi dweud iddo gael ei gam-drin gan Lakey pan oedd yn 15 oed.

Roedd Lakey yn briod a’i hail ŵr ar y pryd a bellach wedi priodi am y trydydd tro. Mae hi a’i  gwr, David, wedi bod yn briod ers 20 mlynedd ac mae ganddyn nhw ferch 19 oed.

Wrth ei dedfrydu dywedodd y barnwr Howard Crowson wrth Lakey ei bod wedi dangos ei bod yn “athrawes ysbrydoledig” ond ei bod hefyd wedi manteisio ar ddau fachgen ifanc “hanner ei hoed. Roedden nhw’n naïf ac yn anaeddfed.”

Dywedodd y barnwr wrth Lakey ei fod yn ymwybodol o effaith y ddedfryd ar ei theulu a’i gyrfa ddisglair.