Carwyn Scott-Howell
Mae cwest i farwolaeth bachgen saith oed o Bowys wedi dweud ei fod wedi marw’n ddamweiniol yn Ffrainc.

Bu farw Carwyn Rhys Scott-Howell ar wyliau sgïo ym mis Ebrill.

Clywodd y cwest fod Carwyn Rhys Scott-Howell, o bentref Tal-y-bont ar Wysg, ger Aberhonddu wedi cwympo dros glogwyn uchel yn  ardal Flaine, yn yr Alpau yn Ffrainc ar 11 Ebrill.

Roedd ymchwiliad i’w farwolaeth wedi dweud nad oedd e wedi marw o ganlyniad i esgeulustod, ond mai “damwain drasig” oedd hi.

Dywedodd ei fam y dylai’r safle fod wedi arddangos arwyddion yn rhybuddio pobol i beidio gwyro oddi ar y llethr.

Penderfynodd y crwner ar sail canlyniadau archwiliad post-mortem fod ei anafiadau wedi arwain at ei farwolaeth.

Datganiad y teulu

Mewn datganiad ar ddiwedd y cwest, dywedodd ei rieni Ceri a Rhys: “Roedd ei wên bert yn goleuo unrhyw ystafell ac roedd bywyd yn llawn chwerthin gyda fi, heb yr un funud ddiflas.

“Mae saith mlynedd yn amser rhy fyr i fod yn angel yn y nen.

“Roedd Carwyn yn alluog iawn wrth sgïo.

“Fe ddechreuodd e sgïo pan oedd e’n dair oed ac fe dreuliodd bum wythnos yn sgïo yn ystod y 12 mis diwethaf.

“Roedd e’n fwy na galluog ar y llethrau, gan ddeall y peryglon, y rheolau a’r arwyddion yn llawn.

“Fe gawson ni ein gwahanu pan gollodd ei chwaer ei sgi, a chariodd Carwyn ymlaen i sgïo ar yr hyn roedd e’n meddwl oedd yn llethr.

“Pe bai arwyddion yn eu lle, ry’n ni’n credu y byddai fy machgen bach yn dal i fod yma ac yn ddrygionus.

“Byddwn yn dychwelyd i Flaine eleni mewn ymgais i sicrhau bod arwyddion yn cael eu gosod mewn man ry’n ni’n credu sy’n ardal beryglus iawn a lle mae nifer o bobol wedi cwympo.

“Mae twll mawr yn ein calonnau a’n bywydau na fydd fyth yn cael ei lenwi.

“Ni all unrhyw beth ddod â’n bachgen bach ni adref ond ein gorchwyl ni fydd sicrhau na fydd unrhyw deulu arall yn dioddef yn ddi-angen.”

Diolchodd y teulu i’r gymuned leol am eu cefnogaeth.