Heddlu Gogledd Iwerddon
Mae bom wedi cael ei ddarganfod o dan gar swyddog yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon.

Dywed yr heddlu y gallai’r ddyfais a gafodd ei darganfod o dan y cerbyd yn ninas Deri fod wedi achosi “marwolaeth neu anafiadau difrifol.”

Mae gweriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yn cael eu hamau o osod y bom.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod yn cynnal ymgyrch i dargedu aelodau o’r lluoedd diogelwch yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd y bom ei adael o dan y cerbyd a oedd wedi’i barcio tu allan i dŷ ym mhentref Eglinton ar gyrion Deri. Cafodd yr heddlu eu galw tua 2.45 y bore ma.

Mae Uwch-arolygydd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) Mark McEwan wedi beirniadu’r rhai sy’n gyfrifol.

Bu’n rhaid i bobl mewn 15 o dai yn ardal Glenrandel adael eu cartrefi ac mae’r ffordd yn dal ynghau.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.