Mae’r heddlu wedi arestio dyn 18 oed mewn cysylltiad â llofruddiaeth “giaidd a chreulon” bachgen 14 oed, gafodd ei ddarganfod mewn mynwent yn Carlisle yn Cumbria.

Cyhoeddodd yr heddlu lleol bod ymchwiliad i lofruddiaeth Jordan Watson ar y gweill ar ôl dod o hyd i’w gorff yn Heol Manor, Carlisle yn gynnar ddydd Mawrth.

Roedd archwiliad post mortem wedi dangos ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i wddf gafodd ei achosi gan arf miniog.

Cafodd dyn 18 oed o’r ardal leol ei arestio ar amheuaeth o’r llofruddiaeth fore heddiw.