Mae teulu llanc 17 oed o Swydd Efrog, y credir sy’n un o’r hunan fomwyr ieuengaf o Brydain,  wedi beirniadu brawychwyr am ddylanwadu arno.

Yn ôl adroddiadau roedd Talha Asmal wedi ffrwydro dyfeisiadau mewn cerbyd tra’n ymladd ar ran Isis yn Irac.

Nid yw ei farwolaeth wedi cael ei gadarnhau’n swyddogol hyd yn hyn ond dywed y teulu ei fod yn ymddangos mai eu mab sydd mewn  lluniau sy’n dangos llanc o’r enw Abu Yusuf Al Britany yn paratoi ar gyfer yr ymosodiad.

Roedd Talha Asmal wedi gadael ei gartref yn Dewsbury yng ngorllewin Swydd Efrog ym mis Mawrth. Honnir ei fod wedi  ymuno a Isis ynghyd a’i ffrind Hassan Munshi, sydd hefyd yn 17 oed.

Dywed teulu Talha Asmal ei fod yn fachgen “diniwed” a bod eithafwyr wedi ei “ecsbloetio” a’i ddefnyddio i wneud eu “gwaith budr”.

Ychwanegodd y teulu eu bod wedi “torri eu calonnau” o glywed y newyddion a’u bod yn condemnio unrhyw drais gan eithafwyr.

Yn ôl heddlu Gorllewin Swydd Efrog nid ydyn nhw wedi gallu cadarnhau enw’r person gafodd eu lladd ond eu bod yn parhau i roi cymorth i deuluoedd sydd ag anwyliaid y credir sydd wedi teithio i Irac a Syria.