Mae Banc Lloyds wedi cael y ddirwy fwya’ o’i bath am wneud cam â chwsmeriaid wrth werthu yswiriant.
Fe fydd rhaid i’r grŵp, sydd ag un o bob pump o’i gyfrannau yn nwylo’r Llywodraeth, dalu dirwy o £117 miliwn.
Dyna’r gosb fwya’ y mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi ei rhoi ar fanc am weithgareddau stryd fawr.
‘Annerbyniol’
Roedd yn ymwneud â’r cyfnod rhwng mis Mawrth 2012 a mis Mai 2013 a’r broses o werthu yswiriant i ddiogelu taliadau – PPI.
Yn ôl yr Awdurdod, roedd y banc wedi gwneud cam â chwsmeriaid trwy wrthod llawer o gwynion yn annheg.
“Roedd cwsmeriaid a oedd wedi cael eu trin yn annheg unwaith oherwydd cam-werthu PPI wedyn yn cael eu trin yn annheg eto ac yn methu â chael yr iawndal oedd yn ddyledus iddyn nhw,” meddai Georgina Philippou, un o gyfarwyddwyr yr Awdurdod.
“Roedd ymddygiad Lloyds yn annerbyniol.”